Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol — Gohiriwyd o 8 Tachwedd – Senedd Cymru am 3:03 pm ar 15 Tachwedd 2017.
Nid fy swydd i yw ystyried y rhesymau dros newid cyfrifoldebau; mater i'r Prif Weinidog yw hynny wrth gwrs, fel y dylai fod. Yr her i bob un ohonom fel Gweinidogion yw sut i barhau i weithio'n effeithiol ar draws y Llywodraeth. Mae 'Ffyniant i Bawb' yn ymgais briodol i geisio cael y Llywodraeth i weithio'n fwy effeithiol ar draws y gwahanol adrannau i wneud yn siŵr ein bod yn rhan o un Lywodraeth, yn hytrach na chynrychioli seilo o fewn y Llywodraeth yn unig—ond hefyd i weithio gyda phartneriaid, oherwydd nid ymwneud â'r hyn y mae'r Llywodraeth yn ei wneud ar ei phen ei hun y mae teithio llesol. Mae yna rôl i awdurdodau lleol a rôl i weithredwyr eraill, Sustrans yn un, o ran sut yr awn ati i addysgu'r cyhoedd i ymgymryd â gwahanol opsiynau ar gyfer teithio.
Mae llawer o bobl yn yr ystafell hon yn weithwyr annodweddiadol mewn cymaint o ffyrdd—nid oes gennym swydd arferol—ond i bobl sy'n defnyddio eu ceir i wneud teithiau byr, a phobl sy'n rhoi eu plant mewn ceir ar deithiau byr i'r ysgol, mae yna her i newid ymddygiad a disgwyliad cymdeithasol. Felly, mae teithio llesol a'r Ddeddf ei hun yn rhan o'r offer sydd gennym i geisio sicrhau'r newid hwnnw mewn diwylliant ac ymddygiad, ond mae angen i amrywiaeth o bobl fod yn rhan o'r sgwrs honno i geisio newid agweddau pobl a'u hymddygiad. Yn y pen draw, dylem weld budd i iechyd y genedl.