Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol — Gohiriwyd o 8 Tachwedd – Senedd Cymru am 2:59 pm ar 15 Tachwedd 2017.
Mae arnaf ofn fod eich datganiad, Ysgrifennydd y Cabinet, yn druenus o annigonol, oherwydd yr un bwrdd iechyd rydych yn uniongyrchol gyfrifol amdano yw'r bwrdd iechyd sy'n perfformio waethaf o ran ei ofal brys a'i berfformiad yn erbyn targed Llywodraeth Cymru ei hun o drin cleifion brys o fewn pedair awr. Yn wir, fy ysbyty lleol, Ysbyty Glan Clwyd, yw'r ysbyty sy'n perfformio waethaf yng Nghymru yn erbyn y targed hwnnw, gydag ychydig dros 66 y cant o gleifion yn mynd i mewn ac allan o'r adran ddamweiniau ac achosion brys benodol honno o fewn pedair awr. Os oes angen i chi ddangos arweinyddiaeth, ac rwy'n credu bod, mae angen i chi roi trefn ar tŷ eich hun ym Mwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Betsi Cadwaladr.