Part of 5. Cwestiynau Amserol – Senedd Cymru am 3:10 pm ar 15 Tachwedd 2017.
Rwy'n ddiolchgar am yr ateb a roesoch ddoe, Brif Weinidog, yn cydnabod bod honiadau wedi'u gwneud ac wedi cael sylw, fel y nodwyd gennych yn ystod y cwestiynau i'r Prif Weinidog. Hoffwn gael mwy o eglurder ynglŷn â'r gydnabyddiaeth honno drwy'r cwestiwn hwn heddiw, a hoffwn wybod pryd y daethoch yn ymwybodol o'r honiadau y mae'r cyn-Weinidog Leighton Andrews a'r uwch gynghorydd arbennig Steve Jones wedi'u nodi—ac wedi'u nodi'n benodol. Hoffwn ddeall pwy a ymchwiliodd i'r honiadau hynny a hefyd pa gasgliadau, ac yn bwysig, pa gamau a gymerwyd gennych chi neu gan rywun a ddirprwywyd gennych i ymdrin ag unrhyw bwyntiau dilynol a oedd yn ofynnol o'r adroddiad a luniwyd ganddynt.