Part of 5. Cwestiynau Amserol – Senedd Cymru am 3:12 pm ar 15 Tachwedd 2017.
Buaswn yn ddiolchgar pe gallai'r Llywydd roi rhyw gyfarwyddyd ynglŷn ag union bwynt gofyn cwestiynau pan nad ydych yn cael ateb gan Ysgrifennydd y Cabinet ar faterion penodol sydd o ddiddordeb mawr i'r cyhoedd ac sy'n faterion o ddiddordeb cyhoeddus yn yr ystyr eu bod wedi eu cofnodi ers peth amser a'u bod yn ymwneud ag achosion penodol sydd dan reolaeth uniongyrchol y Prif Weinidog. Buaswn yn ddiolchgar am unrhyw eglurder y gallwch ei roi i ni ynglŷn â diben hynny.