Part of 5. Cwestiynau Amserol – Senedd Cymru am 3:19 pm ar 15 Tachwedd 2017.
Ysgrifennydd y Cabinet, onid y broblem yw'r ffaith nad ymwneud â bygythiad economaidd 'dim bargen' i Gymru yn unig y mae hyn, ond hefyd y bygythiad economaidd yn sgil y math o fargen y gallem ei chael yn y pen draw gyda'r Llywodraeth yn negodi, a bod y cynnig a roddodd y Llywodraeth i Senedd San Steffan yn ddiweddar ynghylch pleidlais seneddol, ar sail 'derbyn neu wrthod', yn weithred hollol ddiystyr, a hefyd yn un sy'n tanseilio democratiaeth seneddol mewn gwirionedd? Onid craidd y broblem yw bod gennym Lywodraeth Geidwadol ddigyfeiriad ac analluog gydag arweinyddiaeth analluog a'n bod yn daer angen etholiad cyffredinol ac i Jeremy Corbyn ddod yn Brif Weinidog nesaf?