– Senedd Cymru am 3:24 pm ar 15 Tachwedd 2017.
Symudaf yn awr at y datganiadau 90 eiliad—Mick Antoniw.
Diolch. Nid ydym yn dda iawn yng Nghymru am ddathlu rhai o'n meibion a'n merched enwocaf. Yn aml, maent yn fwy adnabyddus y tu allan i Gymru nag yng Nghymru, ac mae'n rhaid i hyn newid. Caiff Gareth Jones ei ddathlu yn yr Wcráin am fod yn un o'r ychydig newyddiadurwyr i dynnu sylw at yr Holodomor yn ystod blynyddoedd 1931-32—Holodomor, marwolaeth drwy newyn, newyn artiffisial Stalin, a arweiniodd at farwolaeth tua 7 miliwn i 10 miliwn o Wcreiniaid. Yn wahanol i lawer o'i gyfoedion, gwrthododd Gareth Jones y gyfeddach a ddarparwyd ar gyfer newyddiadurwyr ym Moscow ac aeth ar droed i weld drosto'i hun. Roedd yr hyn a welodd yn codi arswyd arno. Roedd y modd y câi'r gwir ei guddio yn codi arswyd arno. Ysgrifennodd amdano a thynnu sylw ato a chafodd ei gondemnio gan yr union newyddiadurwyr hynny. Mae'r newyn wedi'i ddogfennu'n dda bellach. Ysgrifennodd un goroeswr:
'Roedd y newyn yn artiffisial wrth natur. Bu farw 500 o bobl yn ein pentref ni a 750 o bobl yn y pentref cyfagos. Dosbarthodd fy nhad wenith yr hydd a chafodd ei arestio y diwrnod canlynol.'
Yn ystod ei daith gerdded waharddedig ym mis Mawrth 1933, gwelodd y newyn â'i lygaid ei hun a nododd:
'Roedd y gri i'w chlywed ym mhob man, "Nid oes bara. Rydym yn marw... Rydym yn aros am farwolaeth".'
Yn ystod y newyn, cafodd tua 20 i 25 y cant o boblogaeth yr Wcráin Sofietaidd eu difa, gan gynnwys traean o blant yr Wcráin. Pan ddywedwyd wrth Stalin y byddai ei orchmynion yn arwain at farwolaeth miliynau, ei ymateb oedd, 'Pwy ddaw i wybod byth?' Oherwydd newyddiadurwyr o Gymru fel Gareth Jones, rydym yn gwybod.