Diogelwch Beicwyr

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:00 pm ar 21 Tachwedd 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 2:00, 21 Tachwedd 2017

(Cyfieithwyd)

Wel, mae'n rhaid i awdurdodau lleol gydymffurfio â'r gyfraith, wrth gwrs. Ond yn rhan o'r gwaith diweddaru canllawiau a fydd yn digwydd, yna yn rhan o'r canllawiau hynny byddwn yn rhoi sylw i'r hyn sydd wedi bod yn digwydd ledled Cymru fel y gellir cryfhau'r canllawiau, os yw'n wir fod problemau mewn rhai rhannau o Gymru. Mae'r Aelod yn hollol gywir i ddweud bod gennym ni'r Ddeddf ar waith, ond mae'n bwysig dros ben bod y Ddeddf yn cael ei hufuddhau, ac mae llawer iawn o gwmpas o hyd yng nghanol llawer o'n dinasoedd a'n trefi i wneud mwy pan ddaw i lonydd beicio yn arbennig, ac mae hynny'n rhywbeth y byddwn ni'n ei ystyried yn rhan o ddiweddaru'r canllawiau.