Diogelwch Beicwyr

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:01 pm ar 21 Tachwedd 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 2:01, 21 Tachwedd 2017

(Cyfieithwyd)

Wel, mae hyn yn rhywbeth y gwn fod Llywodraeth y DU yn ei ystyried. Mae'r gyfraith gyfredol sy'n ymdrin â beicio peryglus yn gyfraith sy'n dyddio'n ôl i yrru ceffyl a chart yn wyllt yn oes Fictoria, nad yw wedi cael ei diweddaru, er y bu erlyniad yn llwyddiannus, wrth gwrs, ar y sail honno. Mae'n peri pryder i mi. Rwy'n credu, yn gyntaf oll, ei bod hi'n bwysig i ni ddeall, yn union fel y rhan fwyaf o yrwyr, bod y rhan fwyaf o feicwyr yn feicwyr cyfrifol, sydd wedi'u goleuo'n dda yn ystod y nos hefyd. Ond rwyf wedi gweld beicwyr ar balmentydd, rwyf wedi gweld pobl yn beicio yn y nos heb oleuadau ac maen nhw'n anweledig, a dweud y gwir. Nid oes unrhyw beth arnynt yn llythrennol a fydd yn eu harddangos i geir. Ond lleiafrif yw'r rhain. Felly, rwy'n credu mai'r hyn sy'n hynod bwysig yw ein bod ni'n parhau i bwysleisio, ar gyfer diogelwch beicwyr eu hunain, ei bod yn eithriadol o bwysig bod ganddyn nhw oleuadau yn y nos, nad ydyn nhw'n gwisgo dillad cwbl dywyll fel na ellir eu gweld, ar gyfer eu diogelwch eu hunain ac i alluogi ceir i'w gweld nhw, wrth gwrs. Ond rydym ni'n sôn am leiafrif bach o bobl. Ceir dyletswydd ar yrwyr ceir, yn amlwg, i ystyried diogelwch beicwyr, ond mae'n bwysig hefyd bod beicwyr yn cymryd camau i sicrhau bod modd eu gweld.