Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:16 pm ar 21 Tachwedd 2017.
Roedd yna lawer o ymatebion i’r ymgynghoriad—dros 250. Mae yna lot fawr o—. Maen nhw’n fwy manwl hefyd na beth a fyddai’n arferol mewn sefyllfa fel hon. Bydd crynodeb o’r ymatebion hynny yn cael ei gyhoeddi cyn bo hir. Mae adolygiad o’r NVZ yn rhywbeth sydd yn statudol o dan y gyfarwyddeb nitrates, ac mae’n rhaid, wrth gwrs, i hyn gael ei ystyried yn fwy eang ynglŷn â llygredd hefyd. Felly, creu’r cydbwysedd sy’n hollbwysig fan hyn. Wrth gwrs, rydym ni'n moyn sicrhau bod y penderfyniad sy’n cael ei wneud yn sicrhau bod y cydbwysedd hwnnw yn digwydd, sef y cydbwysedd rhwng lleihau llygredd, a hefyd, wrth gwrs, sicrhau nad oes unrhyw newidiadau yn ormodol ynglŷn â ffermio.