Cyflenwad Tai Newydd

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:54 pm ar 21 Tachwedd 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 1:54, 21 Tachwedd 2017

(Cyfieithwyd)

Wel, os yw'n sôn am y systemau chwistrellu, a gaf i ei atgoffa na wnaeth ei blaid ei hun wrthwynebu cyflwyno'r ddeddfwriaeth systemau chwistrellu? Wrth gwrs, ymddengys ein bod ni bob amser yn ceisio sicrhau cydbwysedd rhwng yr hyn sy'n rheoleiddio priodol ac yna, wrth gwrs—[Torri ar draws.] Roedd mewn plaid wahanol ar y pryd—mae'r Aelod yn gywir—felly bydd rhaid i mi ddiwygio'r pwynt a wneuthum. Cefnogodd y rheoliad systemau chwistrellu, rwy'n credu, ar y sail honno.

Ein nod yw sicrhau cydbwysedd rhwng rheoleiddio priodol ac annog adeiladu tai. Rydym ni wedi ei wneud drwy'r grant tai cymdeithasol. Rydym ni wedi gwneud yn siŵr nad ydym ni'n colli tai cyngor drwy eu gwerthu, i wneud yn siŵr eu bod nhw'n cael eu cadw yn y stoc tai cyhoeddus. Rydym ni wedi sicrhau hefyd, wrth gwrs, bod dewisiadau, trwy Cymorth i Brynu Cymru, ar gael i bobl i brynu tai, na fyddai'r dewis ganddynt i'w wneud fel arall. Felly, mae gennym ni hanes da pan ddaw i dai, ac rydym ni ar y trywydd iawn i gyrraedd ein targed.