Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:03 pm ar 21 Tachwedd 2017.
Mae 'Ffyniant i Bawb' yn nodi ein hymrwymiad i gymunedau cryf a diogel sy'n diogelu ac yn cynorthwyo pobl agored i niwed. Yr hyn yr ydym ni'n ceisio ei wneud, wrth gwrs, yw mynd i'r afael ag anghydraddoldeb a chynorthwyo pobl agored i niwed, ac mae ein cyllideb ddrafft, rwy'n credu, yn dangos yr union ymrwymiad hwnnw.