Grŵp 2. Rhoi sylw dyledus i gonfensiynau’r Cenhedloedd Unedig (Gwelliannau 26, 2A, 2B, 2C, 2D, 2E, 2F, 2G, 2, 3A, 3B, 3C, 3D, 3E, 3F, 3, 25)

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:46 pm ar 21 Tachwedd 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Kirsty Williams Kirsty Williams Liberal Democrat 4:46, 21 Tachwedd 2017

(Cyfieithwyd)

Diolch i chi, Llywydd. Ni fu erioed unrhyw anghydweld ynghylch ein cefnogaeth ar y cyd i egwyddorion y ddau gonfensiwn. Mae'r ymrwymiad i hyrwyddo hawliau plant, pobl ifanc a'r rhai ag anabledd yn flaenoriaeth y gwn ein bod ni gyd yn ei rhannu. Mae'r Bil wedi'i ddrafftio gyda hawliau plant wrth ei wraidd. Mae'r dyletswyddau cyfreithiol mae'n eu cynnwys eisoes yn diogelu a hyrwyddo hawliau plant a phobl ifanc anabl, ac yn gwneud hynny mewn ffordd sylweddol a chynhwysfawr.

Barn y Llywodraeth oedd, ac mae hi'n dal i gredu hyn, fod y Bil yn ymgorffori egwyddorion y confensiynau ac yn darparu fframwaith cyfreithiol newydd sy'n seiliedig ar hawliau yng ngwir ystyr hynny. Yr hyn a fu dan sylw wrth graffu ar y Bil hwn yw pa un a yw dyletswyddau sylw dyledus yn angenrheidiol, yn briodol neu'n ychwanegu gwerth. Rwyf wedi rhoi cryn ystyriaeth i'r mater hwn, fel y gwnaeth y Gweinidog blaenorol, wrth i'r Bil fynd ar ei hynt. Rwyf wedi pendroni'n ddwys ynglŷn â chryfder y teimlad ar bob ochr i'r Siambr, ac rydym ni wedi ymateb i farn y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yn arbennig.

Yn unol ag ymrwymiad y cyn-Weinidog wrth graffu yn ystod Cyfnod 2, cyflwynodd y Llywodraeth welliannau i ddod â bywyd deddfwriaethol i egwyddorion y confensiynau. Rwy'n credu y bydd y gwelliannau hyn yn caniatáu inni sicrhau gwell cydbwysedd a, gobeithio, osgoi'r canlyniadau anfwriadol yr ydym ni wedi bod yn pryderu yn eu cylch, sef, yn bennaf,  gorlethu athrawon gyda biwrocratiaeth.

Bydd y Llywodraeth yn cefnogi gwelliannau 2 a 3 gan Darren Millar, ond ar y sail y caiff gwelliannau'r Llywodraeth i'r gwelliannau hyn hefyd eu derbyn. Rydym ni wedi meddwl yn ofalus am y gwelliannau a gyflwynwyd gan Darren Millar, a chroesawaf y camau y mae'r aelod wedi eu cymryd i geisio datblygu'r gwelliannau ers Cyfnod 2, gyda'r dyletswyddau bellach yn berthnasol i gyrff perthnasol yn hytrach nag ar lefel unigol. Mae hyn yn bwysig, ond nid yw'n mynd yn ddigon pell i liniaru'r perygl o ganlyniadau anfwriadol. Rwyf, felly, wedi cyflwyno gwelliannau i welliannau Darren.

Mae wyth gwelliant sylweddol a saith gwelliant drafftio ychwanegol, sydd yn berthnasol dim ond i'r testun Cymraeg. Yn benodol, mae gwelliannau 2E, 2F, 3D a 3E i gyd yn ymwneud â beth y mae'r dyletswyddau yn ei olygu. Diben gwelliannau 2E a 3D yw ei gwneud yn glir nad yw hi'n ofynnol rhoi ystyriaeth benodol i'r confensiynau bob tro y caiff swyddogaeth ei gweithredu. Felly, ni fyddai'r dyletswyddau yn uniongyrchol berthnasol i benderfyniadau unigol ynghylch dysgwyr unigol, gan leihau'r peryglon biwrocratiaeth yr wyf wedi bod yn pryderu yn eu cylch. Mae gwelliannau 2F a 3E yn galluogi'r cod i wneud darpariaeth ynghylch beth sydd ei angen ar gyrff perthnasol i gyflawni'r dyletswyddau, ac y caiff y dyletswyddau hynny sy'n ymwneud â sylw dyledus, gan gynnwys yr eithriad rhag ystyriaeth benodol, eu dehongli yn unol â'r cod. Y bwriad yw gwneud yn siŵr y bydd y dyletswyddau i ystyried confensiynau yn rhywbeth a fydd wrth wraidd penderfyniadau strategol a wneir gan awdurdodau lleol a byrddau iechyd, yn hytrach na gorchwyl i'w chwblhau bob tro y gwneir penderfyniad gan ysgolion, sefydliadau addysg bellach ac athrawon a staff cymorth unigol.

Bydd gwelliant 26 yn caniatáu i'r cod wneud gwahanol ddarpariaethau ar gyfer gwahanol ddibenion. Mae gwelliannau 2G a 3F yn diddymu cyrff llywodraethu ysgolion a Sefydliadau Addysg Bellach oddi ar y rhestr o gyrff y mae hi'n ofynnol iddyn nhw roi sylw dyledus i'r confensiynau. Barn y Llywodraeth yw y dylai'r ddyletswydd ddim ond bod yn berthnasol i'r sefydliadau hynny sydd â swyddogaeth fwy strategol i sicrhau bod y trefniadau ar gyfer plant a phobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol yn ddigonol ac fe ddylai hyn ddigwydd ar lefel strategol. Mae awdurdodau lleol a byrddau iechyd yn gweithredu ar y raddfa hon ac mae ganddyn nhw'r strwythur ar waith i gyflawni'r dyletswyddau hyn yn fwy effeithiol, ac mae'r effaith ar staff rheng flaen sy'n cefnogi plant a phobl ifanc o ran cynyddu biwrocratiaeth yn debygol o fod cyn lleied â phosibl.

Yn olaf, mae gwelliant 25 yn diwygio trosolwg y Bil, gan roi sylw amlwg i'r dyletswyddau newydd pwysig i ystyried y confensiynau a gyflwynwyd gan welliannau Darren. Mae'n golygu bod y Bil yn glir ac yn eglur ynglŷn â phwysigrwydd y ddau gonfensiwn yng ngweithrediad y system ADY newydd.

Fel yr wyf i eisoes wedi ei ddweud, mae gwelliannau 2A i 2D a 3A i 3C yn newidiadau i fersiwn Gymraeg gwelliannau Darren. Ar y cyfan, hyderaf y bydd yr Aelodau'n gweld bod gwelliannau 2 a 3 o eiddo Darren, fel y'u diwygiwyd gan y gwelliannau a gyflwynwyd yn fy enw i, yn sicrhau cydbwysedd priodol rhwng yr awydd amlwg i weld cyfeiriad amlwg a phendant at gonfensiynau'r Cenhedloedd Unedig ar wyneb y Bil ac y byddant yn cael eu hystyried heb orlethu ymarferwyr rheng flaen, ac rwyf yn annog yr Aelodau yn y Siambr heddiw i gefnogi gwelliannau'r Llywodraeth yn y grŵp hwn.