Part of the debate – Senedd Cymru am 5:23 pm ar 21 Tachwedd 2017.
Diolch, Llywydd. Efallai y caf i ddechrau gyda gwelliant 54 a gyflwynwyd gan Darren, sy'n ymdrechu, fel yr ydym ni wedi clywed, sicrhau bod gwybodaeth am drefniadau cludiant yn elfen ofynnol o bob CDU. Mae'r gwelliant yn cynnig dull anghymesur, drwy roi blaenoriaeth i gludiant mewn cynlluniau datblygu unigol yn hytrach na mathau eraill o gefnogaeth y gallai fod eu hangen ar blant a phobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol.
Mae nod y gwelliant yn amhriodol, gan nad yw cludiant yn ddarpariaeth dysgu ychwanegol. Nid oes gan lawer o ddysgwyr ag ADY unrhyw ofynion cludiant penodol, ac ni fyddai cynnwys anghenion cludiant yn y CDU yn arwain at ddyletswydd i sicrhau'r ddarpariaeth honno.
Gan ddibynnu ar amgylchiadau'r plentyn neu berson ifanc, efallai y bydd angen i'r CDU gynnwys amrywiaeth eang o wybodaeth arall ar wahân i ddarpariaeth dysgu ychwanegol, gan gynnwys gwybodaeth am drefniadau cludiant. Ond nid yw hi'n briodol rhestru'r rhain i gyd, neu dim ond rhai ohonyn nhw, ar wyneb y Bil. Byddai rhestru gwybodaeth dim ond am gludiant yn anghymesur. Yn wir, rwy'n siŵr y byddai'r Aelodau yn cytuno, nad oes gan y mwyafrif helaeth o blant a phobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol unrhyw anghenion cludiant penodol, felly mae gwneud trefniadau cludiant yn elfen ofynnol o'r cynllun yn anghymesur. Yn y rhan fwyaf o achosion, ni fyddai mewn gwirionedd unrhyw beth i'w ddweud, ac ni fyddai hyn yn ddim byd ond ymarfer ticio blychau arall a grëwyd yn y system addysg.
Yn ystod trafodiadau Cyfnod 2, ymrwymodd y Gweinidog ar y pryd i ystyried ymhellach y sefyllfa gludiant o ran y system ADY newydd, gan nodi y byddai'n cyflwyno gwelliant pe na fyddai pwerau presennol yn ddigonol i roi canllawiau priodol o dan Fesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008 ac yn y cod ADY. Ysgrifennais, fel y clywsom ni, at y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yr wythnos diwethaf i amlinellu ein casgliadau yn dilyn yr ystyriaethau hyn. Ac yn y llythyr hwnnw, ymrwymais y Llywodraeth i ddau gam gweithredu penodol. Yn gyntaf, i wneud y diwygiadau angenrheidiol i'r canllawiau teithio gan ddysgwyr ac i gynnwys, yn rhan o'r cod ADY, arweiniad priodol ynglŷn ag ystyriaethau teithio mewn cynlluniau datblygu unigol, gan gynnwys y broses o'u cynhyrchu. Bydd canllawiau penodol ynglŷn â'r materion hyn yn helpu i sicrhau y cawn nhw ystyriaeth briodol gan bartneriaid cyflenwi mewn ffordd sy'n rhan o, ac nid ar wahân i, ystyriaethau a phrosesau ehangach y system ADY newydd. O dan ddarpariaethau'r Bil, bydd Aelodau yn cael cyfle i ddylanwadu ar gynnwys y Cod. Cynhelir ymgynghoriad cyhoeddus ynglŷn â'r cod yn ystod y flwyddyn nesaf a bydd y Cynulliad yn craffu arno. Bydd ymgynghori hefyd ynglŷn â'r diwygiadau a wneir i'r canllawiau teithio gan ddysgwyr ynglŷn ag ADY, oherwydd rwy'n cydnabod rhai o'r materion achos a amlygwyd gan Darren a Llyr.
Roedd yr ail ymrwymiad a wnes i yn ymwneud ag adolygiad ar ôl gweithredu'r Ddeddf. Rwyf eisiau cynnwys yr ystyriaeth benodol hon o faterion cludiant yn rhan o hynny. Bydd hyn yn fodd inni wirio sut mae elfennau cludiant y system newydd yn gweithio, ac ystyried unrhyw broblemau yn gyffredinol a phenderfynu bryd hynny ar unrhyw gamau pellach priodol. Fel y dywedais, rwy'n cydnabod yn llwyr pa mor bwysig yw materion cludiant o fewn y system AAA bresennol a system ADY y dyfodol, ond nid yw rhoi'r gofyniad hwn ar wyneb y Bil yn briodol, ac rwyf felly yn annog yr Aelodau i wrthod gwelliant 54.
Gan symud ymlaen, Llywydd, rwy'n hapus iawn i gefnogi gwelliannau 56, 57 a 58 o eiddo Llyr Gruffydd, ac rwy'n ddiolchgar iawn i Llyr am gyflwyno'r rheini heddiw. Credaf eu bod nhw'n cryfhau'r ffordd y mae'r Bil yn ymdrin â'r sefyllfa o ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg. Byddai'r diwygiadau yn sicrhau bod dyletswydd barhaus i ystyried pa un a ddylid darparu yn y Gymraeg, ac na fyddai hynny'n gyfyngedig i'r cyfnod pan fydd y corff yn paratoi'r CDU. Yn benodol, byddai'r ddyletswydd i ystyried darpariaeth yn y Gymraeg yn parhau tra bod y corff yn cynnal CDU a phan fydd yr awdurdod lleol yn ailystyried CDU ysgol. Rydym ni wedi pendroni'n hir ynglŷn â gweithredu darpariaethau yn Gymraeg yn y Bil, ac rwy'n credu bod y gwelliannau hyn yn cynrychioli gwelliant defnyddiol, ac rwy'n annog Aelodau i gefnogi gwelliannau 56, 57 a 58.
Rwyf hefyd yn hapus iawn i gefnogi gwelliant 61 gan Darren Millar. Mae is-adran 2 o adran 43 eisoes wedi'i ddrafftio gyda golwg ar sicrhau y diwellir anghenion plant a phobl ifanc mewn ysgolion a sefydliadau addysg bellach, i'r graddau y bo hynny'n rhesymol, tra bod y CDU yn cael ei baratoi. Elfen sylfaenol o'r polisi sy'n sail i'r Bil yw bod gweithredu'n digwydd ar yr adeg gynharaf bosib. Rydym ni eisiau symud oddi wrth yr hyn sydd weithiau yn digwydd yn y system gyfredol, pan fo'r plant a'r bobl ifanc yn gorfod aros am asesiadau statudol neu ddiagnosis cyn y caiff cymorth ei drefnu. Mae adran 43 wedi ei chynllunio i fynd i'r afael â hyn, a'n bwriad oedd, a'n bwriad o hyd, yw ategu'r canllawiau yn y cod beth bynnag sy'n digwydd. Felly, gan y bydd gwelliant 61 yn ei gwneud hi'n ofynnol i gynnwys canllawiau ar y mater hwn yn y Cod, rwy'n hapus iawn i'w gefnogi, ac rwy'n annog yr Aelodau eraill i wneud hynny hefyd.