Grŵp 4. Llunio a chynnal cynlluniau datblygu unigol (Gwelliannau 54, 56, 57, 58, 61)

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:16 pm ar 21 Tachwedd 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Darren Millar Darren Millar Conservative 5:16, 21 Tachwedd 2017

(Cyfieithwyd)

Diolch Llywydd. Rwy'n cynnig gwelliant 54 ac yn dymuno siarad amdano ynghyd â gwelliant 61, a gyflwynwyd hefyd yn fy enw i, a gwneud rhai cyfeiriadau hefyd at welliannau 56, 57 a 58, sydd i gyd yn cael fy nghefnogaeth, yn enw Llyr Gruffydd.

Mae gwelliant 54 yn ceisio diwygio'r Bil fel y bydd angen i'r cynlluniau datblygu unigol ar gyfer pob dysgwr ag anghenion dysgu ychwanegol gynnwys gwybodaeth am drefniadau cludiant y gall fod eu hangen o ganlyniad i'r anghenion hynny. Yn ystod Cyfnod 1, clywodd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg dystiolaeth bod y system gymorth bresennol yn aml yn anwybyddu anghenion cludiant dysgwyr sydd angen cymorth. Dywedodd rhanddeiliaid wrth y pwyllgor eu bod yn credu y dylid ystyried gofynion cludiant dysgwyr yn rhan o'r cynlluniau datblygu unigol.

Rhoddodd Undeb Cenedlaethol yr Athrawon enghraifft o fyfyriwr ag awtistiaeth a allai fod ag anawsterau gydag amserlenni bysiau ac ymdrin ag arian. Gall hyn olygu y byddai angen trefnu cludiant amgen ar gyfer disgyblion yn y mathau hynny o sefyllfaoedd. Mynegodd Diabetes UK bryderon tebyg, fel y gwnaeth y Coleg Brenhinol Pediatreg ac Iechyd Plant. Maen nhw'n credu bod y risg o gymhlethdodau difrifol sy'n deillio o rai cyflyrau yn golygu nad yw cludiant ysgol safonol efallai yn briodol ar gyfer pob unigolyn, yn enwedig ar gyfer siwrneiau hwy rhwng y cartref a'r ysgol.

Cadarnhaodd yr Ymgyrch Anaffylacsis y gallai pobl ifanc sy'n dioddef o anaffylacsis wynebu problemau teithio tebyg. Dywedasant y buont mewn cysylltiad â rhieni oedd wedi tynnu eu plant o'r ysgol oherwydd darpariaeth cludiant annigonol rhwng y cartref a'r ysgol. Mae elusennau epilepsi wedi mynegi pryderon tebyg hefyd.

Felly, mae gwelliant 54 yn ceisio ymateb i'r pryderon hynny drwy sicrhau bod y trefniadau cludiant ysgol sydd eu hangen o ganlyniad i anghenion dysgu unigol yn cael eu cynnwys mewn gwirionedd yn y cynlluniau datblygu unigol. Bydd hyn yn sicrhau nad ôl-ystyriaeth mohonyn nhw gan y rhai sy'n gwneud penderfyniadau mewn ysgolion ac awdurdodau lleol ond y cawn nhw eu hystyried yn briodol yn rhan o'r cynllun.

Yn ogystal, bydd cynnwys trefniadau cludiant mewn cynlluniau datblygu unigol yn caniatáu iddyn nhw fod yn destun dyfarniadau tribiwnlys os cyfyd anghytundeb. Bydd hyn yn fodd pellach o hoelio sylw y rhai sy'n gwneud penderfyniadau mewn awdurdodau lleol, ysgolion a sefydliadau addysg bellach i sicrhau nad anghofir am drefniadau cludiant. Does dim byd fel dyfarniad tribiwnlys posib i sicrhau bod trefniadau cludiant yn cael sylw priodol gan y rhai sy'n gwneud penderfyniadau.

Nawr, rwy'n deall bod adolygiad o ganllawiau Llywodraeth Cymru ar gludiant rhwng y cartref a'r ysgol ar y gweill ar hyn o bryd. Mae hwn yn adolygiad i'w groesawu'n fawr gan fod pob un ohonom ni yn ein hetholaethau o bryd i'w gilydd wedi derbyn llond ein bagiau post o bryderon ynghylch y ffordd y caiff canllawiau weithiau eu dehongli gan awdurdodau lleol. Ond mae arnaf ofn, hyd yn oed gyda'r canllawiau o dan adolygiad, nad yw hynny'n ateb pryderon sylfaenol rhanddeiliaid yn yr un modd ag y bydd fy ngwelliant i yn ei wneud. 

Dim ond drwy ei gwneud hi'n ofynnol i gynlluniau datblygu unigol gynnwys gwybodaeth am gludiant, gan gynnwys i sefydliadau addysg bellach, a thrwy ei gwneud hi'n bosib cael dyfarniadau tribiwnlys yn eu cylch y bydd unrhyw obaith, rwy'n credu, o ymdrin â'r mater hwn unwaith ac am byth.

Gan symud ymlaen felly at welliant 61, mae hwn yn welliant sy'n ceisio sicrhau y rhoddir canllawiau i ysgolion a cholegau ynglŷn â darparu cymorth anghenion dysgu ychwanegol cyn paratoi cynlluniau datblygu unigol. Nawr, diben y gwelliant hwn yw sicrhau y caiff anghenion eu diwallu tra bod pobl yn aros, efallai, am asesiadau ffurfiol ar gyfer y cynllun datblygu unigol. Nawr, fe wyddom ni mai un o'r problemau gyda'r system bresennol yw, yn aml iawn, ei bod hi'n cymryd amser hir i bobl gael pecyn cymorth sy'n briodol i'w hanghenion. A hwyrach mai dyna fyddai'r sefyllfa o hyd, ar adegau, o ran ceisio dod i drefniadau ffurfiol wrth drafod gyda'r gwasanaeth iechyd gwladol, awdurdodau addysg lleol ac eraill i drefnu pecyn cymorth ar gyfer unigolion, hyd yn oed o dan y system newydd.

Felly, bwriad gwelliant 61 yw mynd i'r afael â'r twll posib y gall pobl ddisgyn drwyddo wrth i'r trefniadau hynny gael eu gwneud, fel bod modd, i bob pwrpas, gwneud darpariaeth dros dro. Felly, rwy'n gobeithio y bydd yr Aelodau yn teimlo y gallan nhw gefnogi gwelliant 54 a 61.  

Dywedais yn gynharach yr hoffwn i ddweud ar goedd fy mod i'n cefnogi'r gwelliannau a gyflwynwyd gan Llyr Gruffydd. Mae'r rhain, wrth gwrs, yn welliannau sy'n ceisio sicrhau bod ysgolion, colegau ac awdurdodau lleol yn ystyried yn hytrach na dim ond penderfynu ar ba un a ddylid cynnig darpariaeth dysgu ychwanegol drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae gwelliannau eraill wedi eu cyflwyno y byddwn yn eu trafod yn y man, sydd hefyd yn ategu'r tri gwelliant hyn. Ond, yn rhan o'r pecyn ehangach hwnnw, credaf ei bod hi'n gwbl hanfodol ein bod ni'n cryfhau'r darpariaethau Cymraeg yn y darn hwn o ddeddfwriaeth i sicrhau bod pobl yn gwireddu'r cyfleoedd y dylai fod ganddyn nhw i gael gwasanaethau gan ddarparwyr gwasanaethau cyhoeddus drwy gyfrwng y Gymraeg. Edrychaf ymlaen at wrando ar weddill y ddadl.