Part of the debate – Senedd Cymru am 6:20 pm ar 21 Tachwedd 2017.
A gaf i ddiolch i'r Ysgrifennydd Cabinet am yr eglurder mae hi wedi ei roi ar hyn? Mi wnes i godi'r angen am well eglurder yn adran 65 ar y mater o dalu am wasanaethau eirioli annibynnol yn ystod Cyfnod 2, ac fe gytunodd y Gweinidog ar y pryd i edrych eto ar y geiriad. Yn sgil sylwadau'r Ysgrifennydd Cabinet, rydw i'n ddigon hapus i beidio â chynnig gwelliannau 59 a 60 pan ddown ni atyn nhw.