Part of the debate – Senedd Cymru am 6:51 pm ar 21 Tachwedd 2017.
Diolch, Llywydd. Rydw i'n clywed llawer o'r hyn mae'r Ysgrifennydd Cabinet yn ei ddweud, ac rydw i yn cydnabod bod y Llywodraeth wedi cryfhau yn sylweddol sawl agwedd ar y maes yma. Fe fyddwn i yn dweud, wrth gwrs, roeddech chi'n cyfeirio at awdurdodau lleol a dyletswyddau'r awdurdodau lleol a'r pwyslais ar edrych ar y ddarpariaeth mewn perthynas â darparwyr eraill—pwynt digon teg—ond fe fuaswn i'n licio cryfhau hynny a rhoi pwyslais mwy penodol ar y byrddau iechyd, oherwydd nhw sydd yn ganolog i lawer o hyn, a darpariaethau iechyd, fel roeddwn i yn sôn amdanyn nhw yn fy sylwadau agoriadol, sydd yn greiddiol i lawer o'r problemau yma. Roeddech chi'n sôn am y bum mlynedd o oedi—hynny yw, efallai bod hynny yn ormodol, ond mae'n gorfod digwydd o fewn pum mlynedd—ac rydw i'n cydnabod mi fyddai rhai disgyblaethau lle mi fyddai angen nifer o flynyddoedd i hyfforddi'r gweithlu, ond yn eich geiriau chi'ch hunan, 'rhai disgyblaethau'. Hynny yw, mae yna rai eraill lle petai'r ewyllys yna, fe fyddai modd troi pethau o gwmpas lawer iawn ynghynt, ac felly fe fyddwn i yn gobeithio ein bod ni'n gweld y Bil yma, yn yr un modd ag ewyllys y Llywodraeth i symud yn gynt tuag at 1 miliwn o siaradwyr, fel cyfle i roi sbardun cryfach i'r ymdrech yna. Ac mewn ymateb i'r hyn a ddywedoch chi ynglŷn â gwelliant 66, os ydw i'n cofio'n iawn, ynglŷn â'r ffaith bod safonau'r Gymraeg yn cynnwys darpariaeth ar wasanaethau eirioli, mae hynny'n bwynt a wnaeth y Gweinidog—y cyn Weinidog—yng Nghyfnod 2 y Bil yma. Mae Comisiynydd y Gymraeg wedi dweud yn bendant nad yw hynny'n gywir. Nid yw darpariaeth ar wasanaethau eirioli yn dod o dan y safonau iaith, felly mae angen cryfhau'r Bil i sicrhau'r hawl hwnnw. Cefnogwch y gwelliannau.