Grŵp 13. Darpariaeth Gymraeg (Gwelliannau 64, 65, 66)

Part of the debate – Senedd Cymru am 6:40 pm ar 21 Tachwedd 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Llyr Gruffydd Llyr Gruffydd Plaid Cymru 6:40, 21 Tachwedd 2017

Diolch yn fawr, Llywydd. Wel, gydol y broses ddeddfu yma, rŷm ni wedi cael ein hatgoffa yn gyson o'r diffygion sydd yna o safbwynt gallu'r gweithlu yn y sector yma i gwrdd yn ddigonol â'r anghenion o safbwynt darpariaeth cyfrwng Cymraeg. Nawr, mae'n hen gŵyn, y bydd nifer o'r Aelodau fan hyn yn gyfarwydd â chael gwaith achos cyson ar hyn, sef diffyg gwasanaethau cyfrwng Cymraeg, methu cael diagnosis am wahanol gyflyrau drwy gyfrwng y Gymraeg, diffyg arbenigwyr, efallai, sy'n medru'r Gymraeg, a diffyg darparwyr gwasanaethau penodol hefyd er mwyn cwrdd â'r anghenion sydd wedi eu hadnabod. Yr un cwynion a'r un diffygion a oedd yn cael eu hadrodd i nifer ohonom ni bum, efallai 10 mlynedd yn ôl, ac nid yw hynny yn dderbyniol. Fy ngofid i yw os nad achubwn ar y cyfle i weithredu ar hyn yng nghyd-destun anghenion dysgu ychwanegol, byddwn ni'n dal i drafod yr un rhwystredigaethau a'r un problemau ymhen pum neu 10 mlynedd i ddod. Cyfunwch chi hynny, wrth gwrs, ag uchelgais y Llywodraeth o gael 1 miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 ac mae yna gyfle fan hyn i greu ysgogiad newydd, rhyw fath o fomentwm newydd, a fydd, o'r diwedd, gobeithio, yn wirioneddol yn mynd i'r afael â'r broblem yma. 

Mae'r Llywodraeth wedi cryfhau'r Bil i'r perwyl yma, ac rwy'n cydnabod hynny. Trafodwyd rhai gwelliannau ynghynt ac, wrth gwrs, rŷm ni hefyd wedi dod i gytuno ar welliannau eraill yn ystod Cyfnod 2. Mae angen i Weinidogion adolygu digonolrwydd y ddarpariaeth anghenion dysgu ychwanegol yn Gymraeg bob pum mlynedd, ac mae hynny'n gam positif eithriadol, er bod y posibilrwydd o orfod aros hyd at bum mlynedd ar ôl pasio'r Bil yma am yr adolygiad cyntaf yn oedi gormodol o bosib yn fy marn i hefyd. Mae'r ddyletswydd i gadw darpariaeth dysgu ychwanegol o dan adolygiad, yn cynnwys y Gymraeg yn adran 59, ond yn ddyletswydd i awdurdodau lleol.

Nawr, mae llawer o'r hyn sy'n greiddiol i lwyddiant y Bil yma—y diwygiadau anghenion dysgu ychwanegol ehangach—yn ddibynnol ar rôl a darpariaeth cyrff iechyd. Mae fy ngwelliant i, gwelliant 64, felly yn galw ar i awdurdodau lleol a byrddau iechyd, yn unol â'r rheoliadau y bydd y Llywodraeth yn eu creu, yn gallu asesu faint y galw tebygol a fydd yna am ddarpariaeth anghenion dysgu ychwanegol drwy gyfrwng y Gymraeg yn eu hardal nhw, fel cam cyntaf, ac wedyn gymharu hynny â'r capasiti sydd ganddyn nhw i gwrdd â'r galw hwnnw, ac wedyn, wrth gwrs, fynd ymlaen i amlinellu camau y maen nhw am eu cymryd i ddarparu'r hyn sydd ei angen. 

Mae'n rhaid inni greu sefyllfa lle mae'r cyrff perthnasol yn fwy rhagweithiol ar y mater yma neu, fel rwy'n dweud, byddwn ni yn ôl lle rŷm ni wedi bod flynyddoedd yn ôl ac yn dal i fod yn rhy aml o lawer o safbwynt argaeledd y ddarpariaeth, yn lle dweud y bydd y Llywodraeth yn asesu'r sefyllfa rhywbryd yn y pum mlynedd nesaf, gyda risg yn y cyfamser y bydd cenhedlaeth arall o blant yn colli hawl i dderbyn gwasanaethau a darpariaethau trwy gyfrwng y Gymraeg. Creu impetus i weithredu a bod yn rhagweithiol; dyna yw'r nod o safbwynt y gwelliant penodol yna. 

Mae gwelliannau 65 a 66 yn ymwneud yn benodol â gwasanaethau eirioli, ac y dylai gwasanaethau fel arfer fod ar gael yn Gymraeg ym mhob achos lle y bydd person yn gwneud cais am hynny. Mae hon yn hawl sylfaenol, ac nid yw'n afresymol disgwyl y gellir cwrdd â'r gofyniad yma trwy gydweithio a hyfforddi, oherwydd os yw'r ewyllys yno i sicrhau bod hynny'n digwydd, yna mae'r amser wedi dod, yn fy marn i, inni fynnu o hyn ymlaen fod hynny yn digwydd. Mae'r Aelodau Cynulliad, rwy'n gwybod, wedi derbyn gohebiaeth gan ystod o gyrff, a gwnes i gyfeirio atyn nhw yn gynharach, yn cynnwys UCAC, Mudiad Meithrin, Rhieni dros Addysg Gymraeg, Cymdeithas yr Iaith, CyDAG a Mudiadau Dathlu'r Gymraeg, yn gofyn i chi gefnogi'r gwelliannau hyn, ac fe fyddwn innau hefyd yn gofyn ichi wneud hynny y prynhawn yma.