Part of the debate – Senedd Cymru am 4:08 pm ar 21 Tachwedd 2017.
Rydym ni'n symud i'r cyfnod pleidleisio, a galwaf am bleidlais ar welliant 1 a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth—mae'n ddrwg gen i, dylwn fod wedi dweud mai hon yw'r ddadl ynglŷn â mynd i'r afael â chamddefnyddio sylweddau. Felly, galwaf am bleidlais ar welliant 1 a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth. Agorwch y bleidlais. Caewch y bleidlais. O blaid y gwelliant 33, 12 yn ymatal, neb yn erbyn. Felly, derbynnir gwelliant 1.