Part of the debate – Senedd Cymru am 4:25 pm ar 21 Tachwedd 2017.
Diolch, Llywydd. Rwy'n cynnig gwelliant 1 a byddaf yn ceisio siarad am y gwelliant hwnnw, ynghyd â gwelliannau eraill yn y grŵp hwn a gyflwynwyd yn fy enw i. Ond cyn i mi wneud hynny, fe hoffwn i ddiolch ar goedd i Ysgrifennydd y Cabinet a deilydd blaenorol y portffolio ar gyfer anghenion dysgu ychwanegol, am y trafodaethau hynod gadarnhaol a gawsant gyda mi a'm swyddfa wrth i'r ddeddfwriaeth bwysig hon ddirwyn ei ffordd drwy'r Cynulliad hyd yma. Mae hi wedi bod yn braf iawn, mae'n rhaid imi ddweud, gallu trafod mewn modd diffuant a thraws-bleidiol i lunio, diwygio a gwella'r Bil hwn, ac rwyf wedi gwerthfawrogi'n fawr y trafodaethau a gefais gyda'r ddau ohonynt yn unigol a chyda'u swyddfeydd a'u swyddogion.
Fe hoffwn i hefyd ddiolch ar goedd, ar ddechrau'r ddadl hon, i'r clercod, yr ymchwilwyr a'r ymgynghorwyr cyfreithiol y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg am y gefnogaeth a gafwyd ganddyn hwythau hefyd i ddrafftio'r gwelliannau a gyflwynais ar gyfer y ddadl heddiw. Mae eu cyngor hwythau hefyd wedi bod yn amhrisiadwy.
Diben gwelliant 1 yw sicrhau bod y cod anghenion dysgu ychwanegol, y mae'n rhaid i Weinidogion Cymru ei baratoi er mwyn sicrhau darpariaeth y system anghenion dysgu ychwanegol newydd y bydd y ddeddfwriaeth hon yn ei chyflwyno, yn hygyrch i blant a phobl ifanc. Yn rhy aml o lawer yn y gorffennol, mae Llywodraethau ym mhob rhan o'r DU wedi bod yn euog o gynhyrchu dogfennau sydd yno i gefnogi'r ddarpariaeth o wasanaethau i blant, ac eto maent mewn diwyg sydd yn amhosib i blant a phobl ifanc eu hunain ei ddeall ac yn aml yn annirnadwy i bawb ond llond llaw o arbenigwyr.
Fel mae Cymdeithas Genedlaethol y Plant Byddar wedi tynnu sylw ato'n gwbl briodol, mae'n amlwg bod drafft presennol y cod ymarfer newydd wedi ei ysgrifennu ar gyfer gweithwyr proffesiynol. Mae'n bwysig bod teuluoedd yn cael gwybod am broses y cynllun datblygu unigol, boed hynny drwy gyfrwng cod hygyrch ar gyfer gweithwyr proffesiynol a theuluoedd, neu drwy fersiwn deuluol ar wahân o'r cod ymarfer.
Os caiff ei basio, bydd gwelliant 1 o'm heiddo yn sicrhau y bydd y cod ar gael mewn diwyg y gall plant a phobl ifanc ei ddeall. Bydd yn eu galluogi nhw i ddeall a gwerthfawrogi eu hawliau ac i sicrhau y bydd yr hawliau hynny yn cael eu cyflawni gan y rhai sydd â dyletswyddau a chyfrifoldebau o dan y darn pwysig hwn o ddeddfwriaeth.
Mae gwelliant 4 o'm heiddo yn ceisio diwygio adran 7 y Bil, sy'n ymwneud â chyngor a gwybodaeth. Mae adran 7 yn ei gwneud hi'n ofynnol i awdurdodau lleol wneud trefniadau i roi gwybodaeth a chyngor i bobl ynghylch anghenion dysgu ychwanegol, a'r system sydd ar waith i ddarparu ar eu cyfer.
Yng Nghyfnod 1, clywodd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg gryn dipyn o dystiolaeth a oedd yn mynegi pryder bod, yn wahanol i'r gofynion ar gyfer gwasanaethau eiriolaeth a datrys anghydfod, nad oedd gofyniad mewn gwirionedd y dylai cyngor a gwybodaeth gan awdurdodau lleol fod yn annibynnol. Roedd hi'n amlwg o'r ddadl yng Nghyfnod 2 yn y pwyllgor fod Llywodraeth Cymru yn cytuno â'r farn y dylai'r cyngor hwn fod yn annibynnol, oherwydd, wrth gwrs, yn ystod y ddadl honno, gwnaeth y Gweinidog ar y pryd hi'n glir bod disgwyliad y dylai awdurdodau lleol ddarparu a dyfynnaf 'gwybodaeth a chyngor gwrthrychol a diduedd'.
Felly, mae gwelliant 4 o'm heiddo yn ceisio gosod yr union eiriau hynny, a gymerwyd o enau'r Gweinidog ar y pryd, ar wyneb y Bil i'w gwneud yn glir i awdurdodau lleol nad disgwyliad yn unig yw hyn, y mae hefyd yn ddyletswydd. Rwyf yn sylwi bod Ysgrifennydd y Cabinet wedi cyflwyno gwelliant arall, a fydd, i bob pwrpas, yn cael yr un effaith—gwelliant 28—ac edrychaf ymlaen at glywed yr hyn sydd ganddi i'w ddweud ynghylch hynny.
Gan droi, felly, at welliant 5, mae'r gwelliant hwn yn ceisio cyflawni argymhellion 29 a 30 adroddiad Cyfnod 1 y pwyllgor, a oedd eisiau i wybodaeth a chyngor am y gwasanaethau eiriolaeth sydd ar gael i blant a phobl ifanc fod ar gael ym mhob cyfnod allweddol o'r broses anghenion dysgu ychwanegol, ac ar adegau trosglwyddo allweddol yn eu haddysg, fel symud i ysgol arall. Gan fod gwelliant 5 yn cyflawni'r argymhellion hyn, a gefnogwyd gan y pwyllgor ar sail traws-bleidiol, rwy'n gobeithio'n fawr y cawn nhw eu cefnogi heddiw hefyd.
Yn olaf, o ran gwelliannau 6, 7, 8, 9, 14 a 15, mae'r Bil, fel y mae wedi ei ysgrifennu ar hyn o bryd, yn gofyn i ysgolion, sefydliadau addysg bellach ac awdurdodau lleol wneud asesiad o anghenion dysgu ychwanegol pan ei bod yn ymddangos bod gan berson ifanc anghenion dysgu ychwanegol, ac os gwelir bod angen, yna bydd gofyn iddyn nhw hefyd baratoi a chynnal cynllun datblygu unigol ar gyfer y person ifanc hwnnw.
Fodd bynnag, ceir disgwyliadau o'r gofynion hyn. Un ohonynt yw na ddylai'r dyletswyddau hyn fod yn berthnasol—. Mae eithriadau, dylwn ddweud, yn hytrach, o'r gofynion hyn, ac un ohonynt yw nad yw'r dyletswyddau yn berthnasol os nad yw'r person ifanc yn cydsynio iddynt gael eu cyflawni. Y broblem gyda'r Bil fel y'i drafftiwyd yw nad oes unrhyw ofyniad i hysbysu person ifanc mewn gwirionedd am ganlyniadau gwrthod cydsynio. Er na chafodd y mater hwn ei drafod yn fanwl yn ystod Cyfnodau 1 na 2 o'r ddeddfwriaeth, rwyf yn pryderu, oni bai y caiff y Bil ei ddiwygio, y gallai pobl ifanc wrthod rhoi cydsyniad heb lawn sylweddoli effaith posibl penderfyniad o'r fath ar eu cyfleoedd dysgu a'u rhagolygon. Mae hyn yn arbennig o bwysig, rwy'n credu, gan y bydd llawer o'r bobl ifanc hyn yn ddysgwyr agored i niwed, felly mae'n rhaid i'r rheini sy'n gwrthod Cynllun Dysgu Unigol wneud hynny ar sail dewis gwybodus ac nid oherwydd eu bod nhw wedi eu perswadio'n amhriodol i wrthod cydsyniad, sydd, rwy'n ofni, yn bosibilrwydd gyda'r Bil fel y'i drafftiwyd.
Felly, dyna pam yr wyf i wedi cyflwyno'r gwelliannau hynny sy'n weddill, sy'n ceisio amddiffyn pobl ifanc agored i niwed rhag y posibilrwydd o gamddefnyddio'r eithriadau hyn, drwy sicrhau eu bod yn cael gwybod am arwyddocâd a goblygiadau eu penderfyniad cyn penderfynu pa un ai i wrthod rhoi cydsyniad. Felly, rwy'n gobeithio'n fawr y bydd Aelodau yn cefnogi'r holl welliannau hyn, ac edrychaf ymlaen at glywed y ddadl.