Part of the debate – Senedd Cymru am 4:35 pm ar 21 Tachwedd 2017.
Gan droi at yr elfen o gyngor yn y ddyletswydd, mae'r Bil eisoes yn glir bod yn rhaid iddo fod yn ddiduedd. Mae adran 6, ynghyd ag adran 7, yn ei gwneud hi'n ofynnol i awdurdod lleol, wrth wneud trefniadau i ddarparu gwybodaeth a chyngor, i ystyried pwysigrwydd darparu'r wybodaeth a'r cymorth angenrheidiol i blant, rhieni a phobl ifanc i'w galluogi i gymryd rhan lawn mewn penderfyniadau. Rwy'n fodlon bod y ffordd mae'r Llywodraeth wedi ymdrin â gwelliant 28 yn fwy priodol, ac rwyf yn annog Aelodau i gefnogi'r gwelliant hwn yn hytrach na gwelliant 4 yn enw Darren Millar.
Gan droi at welliannau eraill Darren, ni allaf gefnogi gwelliant 1, sy'n cynnig bod yn rhaid i'r cod fod yn hygyrch i blant. Gadewch imi fod yn gwbl glir: mae'r cod yn ddogfen gyfreithiol a fwriadwyd ar gyfer ymarferwyr. Nid yw, ac ni ddylai fod, ar gyfer plant a phobl ifanc. Mae'r Bil yn glir y bydd y cod yn rhoi canllawiau i bobl sy'n arfer swyddogaethau o dan y Bil ac yn rhoi gofynion arnynt. Yn ei hanfod, bydd yn ddogfen dechnegol sy'n disgrifio llawer o fanylion y system ADY statudol. Bydd hefyd yn ffurf ar is-ddeddfwriaeth y bydd angen i'r Cynulliad hwn ei chymeradwyo. Nid yw'n briodol, felly, iddo gael ei ysgrifennu mewn iaith addas i blant fel y mae'n ymddangos bod y gwelliant yn ei awgrymu.
Fodd bynnag, serch hynny, yn rhan o'u dyletswydd i wneud trefniadau i ddarparu gwybodaeth a chyngor am anghenion dysgu ychwanegol, bydd awdurdodau lleol yn sicrhau bod plant a phobl ifanc yn cael gwybodaeth am y system ADY y mae'r cod yn ei chwmpasu. Mae'n rhaid darparu'r wybodaeth hon mewn ffyrdd sy'n addas i oed a lefel dealltwriaeth y gynulleidfa honno. Hefyd, yn rhan o'r rhaglen weddnewid, bydd Llywodraeth Cymru yn sicrhau y bydd gwybodaeth i helpu plant ddeall y system, fel yr amlinellir yn y Cod, yn cael ei hatgynhyrchu mewn ffordd hygyrch ac addas i blant.
Rwy'n ofni hefyd na allaf gefnogi gwelliant 5 Darren. Cytunaf y dylai plant a phobl ifanc gael gwybodaeth a chyngor am wasanaethau eirioli bob tro y bydd angen iddyn nhw o bosib ddefnyddio'r gwasanaethau hyn. Mae adran 7 y Bil eisoes yn ei gwneud hi'n ofynnol i awdurdodau lleol a chyrff llywodraethu wneud trefniadau i ddarparu gwybodaeth a chyngor am y system ADY. Yn rhan o hyn, mae'n rhaid i awdurdod lleol gymryd camau rhesymol i wneud ei drefniadau yn hysbys ynglŷn ag osgoi a datrys anghydfodau a gwasanaethau eirioli annibynnol.
Mae adran 4(5) y Bil yn caniatáu i'r cod gynnwys gofynion gorfodol ar y materion hyn, a defnyddir y cod i nodi'r adegau amrywiol y mae'n rhaid — a dywedaf eto, y mae'n rhaid darparu gwybodaeth am wasanaethau eiriolaeth i blant a phobl ifanc. Bydd hyn yn berthnasol yn enwedig wrth roi gwybod am benderfyniadau. Mae'r cod drafft eisoes yn cynnwys deunydd ynglŷn â hyn, gan gynnwys templed llythyrau hysbysu i'w defnyddio yn dilyn penderfyniadau allweddol. Caiff hyn ei ystyried ymhellach wrth i ni barhau i ddatblygu'r cod—a bydd ymgynghoriad llawn ynghylch hyn yn digwydd yn y flwyddyn newydd. Felly, mae'r Bil a'r cod eisoes yn ymdrin mewn ffordd gynhwysfawr gyda'r pwynt a gynigir yn y gwelliant. Felly, nid oes angen gwelliant 5, ac rwyf yn annog yr Aelodau i'w wrthod.
Yn olaf, er fy mod i'n llwyr werthfawrogi a chytuno bod angen inni wneud yn siŵr bod pobl ifanc yn gallu gwneud penderfyniadau gwybodus, mae arnaf ofn na allaf gefnogi gwelliannau 6, 7, 8, 9, 14 a 15 o eiddo Darren. Mae'r Bil, ynghyd â darpariaethau'r Cod, eisoes yn darparu ar gyfer hyn. Nid yw addysg ôl-16 yn orfodol. Ar ddiwedd addysg orfodol, mae pobl ifanc yn gwneud penderfyniadau ynghylch eu haddysg: lle maen nhw yn astudio, beth maen nhw yn ei astudio a sut y maen nhw yn astudio. Dyna pam mae'r Bil yn galluogi pobl ifanc, pan fo ganddyn nhw'r gallu i wneud hynny, i benderfynu a ydyn nhw'n fodlon i benderfyniadau gael eu gwneud ynghylch a oes ganddyn nhw ADY ai peidio ac a ddylen nhw gael cynllun CDU ai peidio.
Cytunaf yn llwyr â Darren y dylai pobl ifanc sydd o bosib â'r hawl i gael CDU gael yr holl wybodaeth a chymorth priodol i'w galluogi nhw i lawn ddeall y goblygiadau os byddant yn penderfynu gwrthod cydsyniad yn y broses hon. Mae adran 6 y Bil eisoes yn cynnwys y pwynt hwn. Mae'n ei gwneud hi'n ofynnol i'r bobl hynny sy'n arfer swyddogaethau o dan y Bil ystyried pwysigrwydd y cyfle i'r person ifanc gymryd rhan mor llawn â phosib mewn penderfyniadau, a phwysigrwydd darparu'r wybodaeth a'r cymorth angenrheidiol i bobl ifanc i'w galluogi nhw i gymryd rhan yn y penderfyniadau hynny. Mae'r Bil hefyd yn ei gwneud hi'n ofynnol i awdurdodau lleol wneud trefniadau ar gyfer darparu gwybodaeth a chyngor am anghenion dysgu ychwanegol, ac mae'n galluogi'r cod i osod gofynion ynglŷn â threfniadau o'r fath ac ynglŷn â phenderfyniadau ynghylch ADY a pharatoi CDU. Mae'r darpariaethau hyn sy'n bodoli yn gwneud gwelliannau 6, 7, 8, 9, 14 a 15 Darren yn ddiangen, ac rwyf yn annog yr Aelodau i'w gwrthwynebu ar y sail honno.