Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 1:35 pm ar 22 Tachwedd 2017.
Daeth manylion pellach i'r amlwg yr wythnos hon ynglŷn ag ymdrechion eich Llywodraeth i drawsnewid hen ardaloedd diwydiannol de Cymru, a chredaf y byddai'r rhan fwyaf o bobl yn cytuno bod esgeuluso'r hen ardaloedd diwydiannol ledled y wlad hon wedi deifio Llywodraethau yn San Steffan a gwahanol Lywodraethau Llafur yma. Er y gwn nad yw prosiect tasglu'r Cymoedd yn benodol o dan eich awdurdodaeth uniongyrchol, dylai ffyniant economaidd Cymru gyfan fod yn fater hollbwysig i chi. Mae llawer o bobl yn fy etholaeth yn tybio eto fyth a oes gan Lywodraeth Cymru fap diffygiol nad yw’n cynnwys y Rhondda. Gwn nad ni yw’r unig ardal sydd wedi cael cam ac wedi'i hesgeuluso, felly a allwch egluro inni pa gynlluniau sydd gennych, fel Ysgrifennydd y Cabinet dros yr economi, i gyflwyno newidiadau economaidd parhaol i'r llefydd sydd eu hangen fwyaf, y tu hwnt i gynlluniau parcio a theithio mwy o faint a threnau cyflymach i Gaerdydd?