Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 1:34 pm ar 22 Tachwedd 2017.
Wel, rwy'n awyddus iawn i sicrhau bod pawb sy'n gallu elwa o’r cynllun diwygiedig yn gallu gwneud hynny. Ac yn sicr, mae cysylltiad cryf rhwng hyn a'r datganiad a wneuthum ddoe, lle roedd y pwyslais ar Cadw yn parhau i fod yn rhan o’r Llywodraeth, ond gan ddod yn sefydliad hyd yn oed yn fwy masnachol nag ydyw eisoes. Ac fel yr awgrymais ddoe, mae Cadw wedi cynhyrchu refeniw sylweddol. Rwy'n sicr, ar ôl clywed y ddadl hon heddiw, y byddant yn awyddus i fynd ar drywydd eu marchnata uniongyrchol ar gyfer buddiolwyr y cynllun newydd cyn gynted ag y cyhoeddir y cynllun. Ac yn sicr, pe bai hynny o gymorth i’r Aelod dros Fynwy, buaswn yn fwy na pharod i ymweld â'i gastell yn Rhaglan i weld yr adeilad ardderchog a basiais sawl tro er nad wyf wedi ymweld ag ef yn ddiweddar, a buaswn yn fwy na pharod i gyfarfod â rhai o’r trigolion a allai fod yn bobl sy’n elwa o’r pàs hwn, er mwyn gwneud yn siŵr eu bod yn sicrhau bod eu hawliau’n cael eu bodloni.