Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 1:39 pm ar 22 Tachwedd 2017.
Ysgrifennydd y Cabinet, er gwaethaf 18 mlynedd o bolisïau economaidd eich Llywodraeth, mae hen ardaloedd diwydiannol Cymru, yn enwedig y rhai yn fy rhanbarth, yn parhau i fod ymhlith y tlotaf yn Ewrop—ac mae hynny'n syfrdanol o ystyried bod yr UE wedi ehangu i gynnwys cyn-wledydd dibynnol Sofietaidd. Nid yw arian strwythurol yr UE wedi gweithio. Nid yw'r polisïau wedi gweithio. Mae gennym gyfle ar ôl Brexit i roi rhaglenni cyllido strwythurol sy'n gweithio i Gymru ar waith. Ysgrifennydd y Cabinet, pa drafodaethau a gawsoch gyda Llywodraeth y DU ynglŷn â rhaglenni cyllido strwythurol ar gyfer pan fyddwn yn gadael yr UE yn y pen draw? Diolch.