Diogelwch Priffyrdd

Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 2:15 pm ar 22 Tachwedd 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Darren Millar Darren Millar Conservative 2:15, 22 Tachwedd 2017

(Cyfieithwyd)

Un o'r mannau lle mae damweiniau'n tueddu i ddigwydd yn fy etholaeth dros y blynyddoedd diwethaf yw cefnffordd yr A494, yn arbennig yn yr ardal rhwng Loggerheads ac ardal Clwyd Gate ger Llanbedr Dyffryn Clwyd. Roeddwn yn ddiolchgar iawn i Ysgrifennydd y Cabinet am sicrhau bod ei swyddogion ar gael i fynychu cyfarfod ar y safle ar hyd y rhan honno o'r ffordd ddiwedd mis Hydref, a hefyd am yr ohebiaeth ddilynol a anfonwyd gan Ysgrifennydd y Cabinet yn dilyn y cyfarfod hwnnw. A allwch ddweud wrthyf beth yw'r amserlenni ar gyfer y gwelliannau a nodwyd yn eich llythyr, a pha gamau pellach y gellid eu cymryd i leihau cyflymder y traffig, ar y ffordd brysur hon yn benodol?