Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 2:11 pm ar 22 Tachwedd 2017.
Wel, nid yw hynny'n swnio fel fawr ddim, a bod yn onest gyda chi, Ysgrifennydd y Cabinet. Os ydym am greu economi nad yw'n gadael unrhyw un ar ôl, mae'n rhaid inni sicrhau y ceir chwarae teg. Pan edrychwch ar y seilwaith trafnidiaeth, cyflymderau band eang—pethau sy'n hanfodol i lawer o fusnesau er mwyn llwyddo—ceir anghysondeb enfawr yn y ddarpariaeth, ac mae cwmnïau dan anfantais gystadleuol. Yn ddiweddar bûm yn ymweld â melin goed yn Ngheredigion, gyda fy nghyd-Aelod, Simon Thomas a Ben Lake, ac mae arnynt angen band eang â chyflymder digonol i fonitro'r offer, ac nid yw'r cyflymder hwnnw ganddynt y rhan fwyaf o'r amser. Fel mae'n digwydd, mae'r system honno'n gweithio'n iawn yn y rhan fwyaf o'r gwledydd eraill ledled y byd sy'n defnyddio'r un peiriannau. Nawr, gwn nad yw band eang yn un o'ch cyfrifoldebau uniongyrchol, ond beth a wnewch o fewn eich awdurdodaeth i sicrhau bod cymunedau a busnesau sydd wedi'u lleoli y tu allan i ardaloedd trefol y wlad hon yn cael eu cynorthwyo yn hytrach na'u llesteirio mewn perthynas â'u datblygiad economaidd ?