Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 2:18 pm ar 22 Tachwedd 2017.
Rwyf wedi gofyn i fy swyddogion fynd i'r afael â'r pryderon hyn, ac mae gweithwyr wedi eu dwyn i fy sylw innau hefyd. Credaf ei bod yn bwysig fod unrhyw bryderon ynghylch diogelwch swyddogion yn cael eu cydnabod a'u datrys ar unwaith. Rwyf hefyd wedi gofyn i fy swyddogion edrych ar yr adnoddau ar gyfer y gwasanaeth arbennig hwnnw er mwyn sicrhau bod digon o bobl wrth law i allu ymdrin ag unrhyw ddigwyddiadau. Rwyf hefyd wedi gofyn i gyflogau gael eu harchwilio hefyd, gyda'r bwriad o sicrhau y gellir mynd i'r afael ag unrhyw bryderon ynghylch anghyfartalwch.