Gwasanaethau Rheilffordd yn Ne-ddwyrain Cymru

Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 2:19 pm ar 22 Tachwedd 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Steffan Lewis Steffan Lewis Plaid Cymru 2:19, 22 Tachwedd 2017

(Cyfieithwyd)

Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei ateb. Ym mis Mawrth 2015, cyhoeddwyd y byddai rheilffordd Glyn Ebwy yn cael ei deuoli fel rhan o fenter £40 miliwn a fyddai'n darparu gwasanaeth bob hanner awr. Cafwyd cryn dipyn o ffanffer ynglŷn â hyn. Cafwyd digwyddiadau ymgysylltu cyhoeddus a llawer iawn o sylw yn y cyfryngau a dywedwyd y byddai'r broses o ddeuoli'r rheilffordd wedi'i chwblhau erbyn y gaeaf canlynol, ac y byddai platfformau newydd a signalau newydd yn dilyn yn fuan wedyn. Mae llythyr a gefais gan Network Rail yn dweud bod yr holl waith ffisegol wedi ei ohirio ym mis Rhagfyr 2016 wrth i Lywodraeth Cymru gychwyn cyfnod o oedi ac adolygu, ac rydym bellach yn agosáu at aeaf 2017 heb wasanaeth bob hanner awr, ac mae'r gwaith yn dal i fod heb ei gwblhau. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ymddiheuro, os gwelwch yn dda, i bobl cwm Ebwy am yr oedi hwn? A wnaiff roi esboniad llawn iddynt, ac a wnaiff roi dyddiad cwblhau newydd iddynt?