Part of the debate – Senedd Cymru am 5:57 pm ar 22 Tachwedd 2017.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. A gaf fi ddechrau drwy ddiolch i Llyr am gyflwyno'r ddadl hon heddiw, a hefyd am amlinellu'r heriau sydd o'n blaenau, yn ogystal â rhywfaint o'r gwaith da sy'n mynd rhagddo, ac am ei chyflwyno'n bwyllog ac yn ystyrlon, ond hefyd gydag angerdd ynglŷn â goresgyn yr heriau hyn mewn gwirionedd a cheisio gwelliannau yn y maes? Ac yn yr un modd, y pwyntiau a nododd fy nghyd-Aelodau: Dawn Bowden a gyfeiriodd at y gwaith amlasiantaethol da ar lawr gwlad yng Ngwent eisoes, a'r gwersi y gallwn eu dysgu o hynny, a byddaf yn dychwelyd at y rheini mewn eiliad; a hefyd David Melding, sydd, wrth gwrs, fel y gŵyr cyd-Aelodau, yn cadeirio grŵp cynghori'r Gweinidog ar ganlyniadau i blant. Mae hwn yn faes y gwn fod y grŵp cynghori'n edrych arno hefyd, er mwyn cyflwyno'r gwelliannau y cyfeiriwyd atynt. Felly, a gaf fi ddiolch iddynt oll am gyflwyno'r ddadl hon gerbron y Siambr hon yma heddiw?
Gadewch i mi grybwyll rhai o'r materion sy'n codi. Rwy'n mynd i fynd yn fanwl hefyd drwy rai o'r ffyrdd y credwn eu bod yn ffyrdd ymlaen. Fel y soniodd David Melding, rwy'n camu i esgidiau go fawr yma, ar ôl arweinyddiaeth Carl Sargeant yn y maes.
Wel, yn gyntaf oll, fel y gwyddom, daeth Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 i rym y llynedd. Yn ganolog i'r Ddeddf hon mae gweithio gyda phobl i gyflawni'r hyn sy'n bwysig iddynt—gwell defnydd o wasanaethau ataliol. Bydd hyn yn cael mwy o effaith ar gyfleoedd bywyd unigolyn, ac mae'n caniatáu inni ddefnyddio'r adnoddau hynny i helpu mwy o bobl. Rwy'n ymwybodol iawn, fel y mae'r Aelodau, fod pob achos o blentyn coll yn cynnwys y posibilrwydd y caiff plentyn ei niweidio'n difrifol mewn nifer o ffyrdd. Mae'r rhesymau pam y mae plant yn mynd ar goll yn amrywio, maent yn gymhleth, maent yn unigryw i bob sefyllfa a phob plentyn unigol, ond rydym yn gwybod, pan fydd plentyn yn mynd ar goll, y gallent fod yn agored i amrywiaeth o risgiau emosiynol, corfforol a rhywiol yn ogystal. Felly, mae'n bwysig iawn fod asiantaethau'n cydweithio pan fydd plentyn yn mynd ar goll, er mwyn rhannu gwybodaeth ac ymateb yn gyflym fel y gellir lleoli'r plentyn yn gyntaf a'i ddiogelu cyn gynted â phosibl.
Mae'r ffordd y byddwn yn ymateb i blant wedi iddynt fod ar goll hefyd yn bwysig iawn. Mae angen ymagwedd gymesur, a dull o weithredu sy'n canolbwyntio ar y plentyn ym mhob achos o blentyn coll, dull sy'n ystyried eu hanghenion unigol ac a oes problemau o ran llesiant, gofal, cymorth, amddiffyn plant sydd angen mynd i'r afael â hwy. Rwy'n falch o ddweud bod fy swyddogion, o dan arweiniad fy rhagflaenydd, Carl Sargeant, wedi cael cyfnod o ymgysylltu gweithgar iawn â darparwyr gwasanaethau rheng flaen sy'n gweithio gyda phlant coll. Mae'r gwaith wedi ein helpu i ddeall yn well y problemau go iawn ar lawr gwlad, er mwyn sicrhau bod ein hymateb polisi yn un gwybodus sy'n deall y tirlun yn llawn fel y mae'n bodoli ar hyn o bryd yng Nghymru, a beth y gallwn ei wneud yn well. Felly, rwyf wedi cytuno i ariannu gwaith i gasglu safbwyntiau plant eu hunain—mae hynny'n hollbwysig—fel bod eu profiad a'u barn am y penderfyniadau a wneir yn eu cylch yn llywio'r polisïau rydym yn eu datblygu bellach i'w cadw'n ddiogel.
Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi darparu cyllid i Fwrdd Rhanbarthol Diogelu Plant Caerdydd a Bro Morgannwg i adolygu a datblygu gweithdrefnau diogelu cenedlaethol ar gyfer Cymru ar ran Cymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru, ac mewn ymgynghoriad â byrddau diogelu rhanbarthol. Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn cefnogi hyn drwy hwyluso gwaith gyda grwpiau amlasiantaethol i ddatblygu canllawiau ymarfer cenedlaethol ar faterion diogelu penodol, i'w defnyddio ar y cyd â'r gweithdrefnau amddiffyn Cenedlaethol. Disgwylir i'r gwaith pwysig gael ei gwblhau'n llawn erbyn mis Rhagfyr 2018. Mae'n mynd rhagddo yn awr; nawr yw'r amser i fwydo syniadau i mewn i'r gwaith hwnnw.
Yn ganolog i'r gwaith hwn mae fy ymrwymiad i symud oddi wrth ddull o ddiogelu sy'n cael ei ysgogi gan broses a thicio blychau i ddull clir sy'n canolbwyntio ar unigolion yn unol â nod Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014. Felly, sefydlwyd grŵp gorchwyl a gorffen amlasiantaethol, o dan grŵp cynghori'r Gweinidog ar wella canlyniadau i blant, i ystyried dull gweithredu o'r fath mewn perthynas â phlant sy'n mynd ar goll o'u cartref neu o ofal. Mae'r grŵp hwn yn datblygu canllawiau ymarfer cenedlaethol, i'w defnyddio ar y cyd â gweithdrefnau amddiffyn cenedlaethol. Bydd y canllawiau ymarfer cenedlaethol ar blant sy'n mynd ar goll o'u cartref neu leoliad gofal yn cefnogi dull cyson a chymesur o weithredu mewn perthynas â phob plentyn sy'n mynd ar goll yng Nghymru, a bydd hyn yn cynnwys trefniadau i ystyried angen pob plentyn am wybodaeth, cyngor a chymorth mewn ffordd gymesur sydd hefyd yn hyrwyddo eu llesiant.
Nawr, bydd rhai plant a theuluoedd yn elwa o wybodaeth a chyngor am wasanaethau ataliol. Efallai y bydd rhai plant angen cael eu hanghenion gofal a chymorth wedi eu hasesu, a bydd rhai plant angen cynllun amddiffyn plant cofleidiol hefyd. Efallai y bydd rhai sydd â chynlluniau ar hyn o bryd angen cael y rhain wedi'u hadolygu ar ôl bod ar goll. Gallwn gytuno fod angen mynd i'r afael â'r mater penodol hwn o fynd ar goll trwy gyfarfod strategaeth amlasiantaethol, lle y bo angen, i lywio asesiad, cynllun neu ymateb i adolygiad sy'n canolbwyntio ar y plentyn, yn ddibynnol ar anghenion llesiant a diogelu'r plentyn unigol. Rwy'n ymwybodol, fel y dywedodd yr Aelod, ei fod yn un o lofnodwyr llythyr gan Gymdeithas y Plant, sy'n tynnu sylw at nifer o faterion yn ymwneud â phlant coll y carwn fynd i'r afael â hwy. Gyda llaw, rwy'n hapus i gyfarfod i'w drafod hefyd.
Ar fater rhannu data rhagweithiol gyda'r heddlu, rwy'n falch o ddweud bod Heddlu De Cymru, fel y soniodd David Melding eisoes, yn neilltuo amser, gan weithio mewn ymgynghoriad â'r tri heddlu arall yng Nghymru, i ddatblygu proses ar gyfer cofnodi a rhannu'r wybodaeth sydd ei hangen er mwyn i'r heddlu asesu risg plant unigol mewn gofal os ânt ar goll. Caiff hyn ei ystyried yn rhan o waith y canllawiau ymarfer ar gyfer plant sy'n mynd ar goll o'u cartref neu leoliad gofal. Gallaf roi'r sicrwydd hwnnw i chi.