Part of the debate – Senedd Cymru am 6:04 pm ar 22 Tachwedd 2017.
Mae fy nghyfaill yn hollol gywir. Credaf y bu cydnabyddiaeth yma yn y Siambr heddiw o'r gwaith da sy'n mynd rhagddo, ond nid yw'n digwydd ym mhobman. Dyna'r mater y mae grŵp cynghori'r Gweinidog yn edrych arno. Mae'r adroddiad hwn yn gyfraniad at hynny sydd i'w groesawu. Ond mae'n wir ein bod yn gwybod beth sy'n gweithio, a gallwn ei weld yn gweithio, a ni sydd wedi ariannu llawer ohono. Bellach mae angen inni ei weld yn cael ei gyflwyno'n well o lawer, ac rwyf am droi at rai o'r materion eraill. Ond rydych yn llygad eich lle, ac rwy'n canmol fy nghyfaill, Joyce, ar yr ymrwymiad y mae wedi'i ddangos i hyn, gan wthio'r agenda hon ymlaen dros nifer o flynyddoedd.
Ar fater y ddyletswydd statudol, os caf droi at hynny, a darparu cyfweliadau ôl-drafod i blant coll sy'n cyfateb i'r darpariaethau presennol yn Lloegr—gyda llaw, mae'r dull o weithredu yn Lloegr yn wahanol iawn. Mae'n amlwg wahanol. Nid oes gan Loegr weithdrefnau cenedlaethol fel sydd gennym ni, ac mae hynny'n golygu bod yn rhaid iddynt gael protocolau unigol. Nid oes unrhyw weithdrefnau cenedlaethol. Rydym ar y blaen yma mewn gwirionedd, a chaiff hynny ei gydnabod.
Ond ar y mater hwnnw, rwy'n parhau'n bryderus nad yw hyn yn ffocws ohono'i hun ac efallai na fydd yn gwella ymatebion diogelu i blant unigol, ac yn wir, os caf dynnu sylw Llyr at adroddiad Arolygiaeth Cwnstabliaeth ei Mawrhydi a gyhoeddwyd y llynedd, roedd yn awgrymu bod gweithredu'r ddyletswydd statudol yn Lloegr yn anghyson, a hefyd—a dyfynnaf yn fyr— er bod llawer o enghreifftiau o ymarfer cadarnhaol a mentrau drwy weithio amlasiantaethol
—yn Lloegr mae hyn gyda llaw— nid ydym wedi dod o hyd i unrhyw dystiolaeth fod gwasanaeth yr heddlu a sefydliadau eraill sydd â chyfrifoldebau am les plant yn deall y canlyniadau y mae hyn yn eu sicrhau i blant, neu'n defnyddio'r ddealltwriaeth hon i lywio eu harferion cynllunio a gweithredu.
Rhaid inni fod yn ymyrraeth ddeallus a'i wneud i weithio er mwyn y canlyniadau, nid er mwyn rhoi tic yn y blwch yn unig, 'rydym wedi'i wneud', wedi ôl-drafod, ac yn y blaen. Mae'r feirniadaeth yno. Nawr, ceir tystiolaeth dda, gyda llaw, ei fod yn gweithio mewn rhai mannau. Rwy'n credu bod yr adroddiad yn cyfeirio at Gaerwrangon a mannau eraill. Ond ceir tystiolaeth hefyd ei fod yn amrywiol iawn, ac mae'n ymwneud â'r gallu yno i ddweud, 'Rydym wedi ei wneud. Da iawn. Wedi'i wneud'.
Rwy'n credu'n gryf fod dull amlasiantaethol sy'n canolbwyntio ar y plentyn ac sy'n seiliedig ar anghenion unigolion o fewn gweithrediad Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru), a gefnogir yma yn y Cynulliad hwn, yn cynnig ymateb diogelu llawer mwy cadarn sy'n canolbwyntio mwy ar y plentyn. Fe fyddwch yn gwybod hefyd, ac mae wedi'i grybwyll yn y Siambr heddiw, am arferion da sydd eisoes yn bodoli yng Nghymru, drwy wasanaethau, fel y soniodd Dawn, fel prosiect plant coll Gwent, ac fel y soniodd David, gwasanaeth eiriolaeth annibynnol de Cymru i blant coll, sy'n darparu gwasanaethau ôl-drafod a chymorth parhaus. Gwyddom fod arferion da i'w cael ar lawr gwlad. Mae'n darparu eiriolaeth ac maent yn atgyfeirio er mwyn sicrhau bod gan y plant sydd fwyaf mewn perygl gynlluniau diogelwch cadarn ar waith.
Ar fater plant sy'n derbyn gofal sy'n mynd ar goll o leoliadau y tu allan i'r ardal, mae grŵp cynghori'r Gweinidog ar wella canlyniadau i blant yn cynnwys rhaglen waith sy'n edrych yn benodol ar ofal preswyl, gan gynnwys lleoli y tu allan i'r ardal. Mae hyn yn cynnwys gwaith ar hysbysu, cynllunio lleoliadau a dewis lleoliadau. Mae'r rhaglen waith hon yn datblygu'n dda, ac mae adnoddau ar gael gan y Llywodraeth ganolog ar gyfer gwaith ymchwil a chwmpasu gwaith i lywio'r ffordd ymlaen, a byddwn yn sicrhau, gyda llaw, bod adroddiad Cymdeithas y Plant yn cael ei ystyried wrth i'r gwaith hwnnw ddatblygu.
Nid wyf yn siŵr a ymatebais i fy nghyfaill pan oedd hi'n gofyn am yr amserlen, ond fel yr eglurais yn fy sylwadau cynharach, erbyn 2018 rydym yn gobeithio cael y canlyniadau ar gyfer yr holl waith hwn fel y gallwn ddweud wedyn, 'Dyma'r ffordd ymlaen'.
Felly, hoffwn ddiolch i Gymdeithas y Plant am eu hadroddiad a'r cyfraniad y mae'n ei wneud i lywio'r dystiolaeth y mae'n ei darparu fel rhan o'r dull gweithredu strategol hwn i wella canlyniadau real i holl blant Cymru. Rwy'n siŵr y bydd yr Aelodau'n cytuno bod ehangder y camau y clywsom amdanynt heddiw ac a roddwyd ar waith gan y Llywodraeth hon gyda phartneriaid ar lawr gwlad yn helpu plant ond hefyd y gweithwyr proffesiynol sy'n gweithio'n ddiflino i'w helpu i gyflawni eu canlyniadau. Hoffwn ddiolch i'r holl Aelodau unwaith eto—Llyr a phawb arall sydd wedi cyfrannu at hyn—a chredaf fod y nifer o'r Aelodau sydd yma ar ddiwedd y chwarae heddiw i glywed y ddadl hon yn dangos pa mor bwysig yw hyn, a sut y gallwn wneud pethau'n wahanol ac yn well yng Nghymru mewn gwirionedd, ac mae angen inni ledaenu'r arferion da hyn ledled y tir. Diolch yn fawr iawn.