Part of 2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol – Senedd Cymru am 2:25 pm ar 22 Tachwedd 2017.
Un o fanteision sefydlu comisiwn o'r math yma, yn fy marn i, yw'r gallu i wyntyllu'r math yma o syniadau ynglŷn ag awdurdodaeth a'r proffesiwn ac ati mewn ffordd sydd yn gallu ysgogi'r cyhoedd i ymwneud â chwestiynau sydd yn gallu bod yn rhai eithaf dyrys ac eithaf technegol. Rwy'n credu bod hynny'n rhan bwysig i'r comisiwn allu chwarae, ac rwy'n gobeithio taw dyna y gwnaiff e maes o law.