Brexit

Part of 2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol – Senedd Cymru am 2:29 pm ar 22 Tachwedd 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Leanne Wood Leanne Wood Plaid Cymru 2:29, 22 Tachwedd 2017

(Cyfieithwyd)

Gwnsler Cyffredinol, rwyf wedi cael fy siomi'n fawr gan y ffordd y mae'r Blaid Lafur wedi bod yn pleidleisio yn San Steffan dros yr wythnosau diwethaf ar bleidleisiau hollbwysig yn ymwneud â phroses Brexit. Mae un o'r pleidleisiau hynny yn arbennig o berthnasol i chi, yn rhinwedd eich swydd fel Cwnsler Cyffredinol. Ni chefnogodd eich plaid yn San Steffan welliant Plaid Cymru a fuasai wedi rhwymo mewn cyfraith unrhyw gynigion cydsyniad deddfwriaethol a wneid yn y lle hwn mewn perthynas â Brexit. Yn y cyfamser, cefnogwyd ein gwelliant gan blaid Llywodraeth yr Alban, yn ogystal â'r Democratiaid Rhyddfrydol—dwy blaid rydych yn gweithio gyda hwy yn y Llywodraeth hon yma—ac nid oeddent yn gweld unrhyw broblem gydag ef. Yn wir, roedd yna un aelod Llafur o Gymru hefyd nad oedd yn gweld unrhyw broblem, a thorrodd y chwip a chefnogi ein gwelliant. A allwch egluro i'r Siambr hon pa un a yw Llywodraeth Cymru yn gwneud unrhyw beth i sicrhau bod gan Gymru lais mewn perthynas â sut y mae proses Brexit yn mynd rhagddi? Ac a allwch egluro pam nad yw'r gwaith hwnnw'n cael ei adlewyrchu yng ngweithredoedd ASau'r Blaid Lafur?