Part of 2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol – Senedd Cymru am 2:22 pm ar 22 Tachwedd 2017.
A gaf fi fanteisio ar y cyfle hwn i longyfarch yr Aelod ar ei benodiad yn Gwnsler Cyffredinol? Mae'n bleser arbennig gennyf wneud hynny yn bersonol gan fy mod wedi bod yn y brifysgol gydag ef oddeutu chwarter canrif yn ôl bellach. Fel cyfreithwyr, gallem ei ystyried yn beth da pe bai maint y proffesiwn cyfreithiol yn ehangu, ond tybed: wrth siarad ar ran y Llywodraeth, a oes ganddo farn ynglŷn ag a fyddai proffesiwn cyfreithiol mwy o faint o ganlyniad i ddatganoli, ac awdurdodaeth neilltuol o bosibl, yn beth da i Gymru? A yw'n gweld unrhyw berygl o gael gwahaniaeth mwy eglur rhwng ein system gyfreithiol ni ac un Lloegr, efallai i fusnesau a allai fod angen talu am y cyfreithwyr hynny?