Part of 2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol – Senedd Cymru am 2:38 pm ar 22 Tachwedd 2017.
Diolch i'r Cwnsler Cyffredinol am gadarnhau'r sefyllfa gyfreithiol. Gofynnais gwestiwn i'r Prif Weinidog ddoe. Ni wnaethon ni ei gyrraedd ar y rhestr, ond fe atebodd y Prif Weinidog i fi ei fod yn fwriad gan Lywodraeth Cymru, gyda'r pwerau hyn, i edrych ar bolisi cynllunio er mwyn gwahardd ffracio yng Nghymru. A gaf i ddweud wrth y Cwnsler Cyffredinol a'r Cynulliad fy mod i wedi derbyn copi o farn gyfreithiol, wedi'i baratoi gan Paul Brown QC, ar gais Cyfeillion y Ddaear? Mae'r bargyfreithiwr hwnnw yn mynd drwy'r opsiynau sydd gan Lywodraeth Cymru ar gyfer gwahardd ffracio yng Nghymru, ac mae'n dod i'r casgliad, fel roedd y Prif Weinidog yn dweud ddoe, fod modd defnyddio polisi cynllunio. Ond mae hefyd yn dod i'r casgliad bod modd i'r Cynulliad hwn basio Deddf benodol, ac mi wnaf ddyfynnu o'r Saesneg: