Part of 2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol – Senedd Cymru am 2:39 pm ar 22 Tachwedd 2017.
Felly, mae'n glir i fi fod opsiynau gyda'r Llywodraeth fan hyn o ran polisi cynllunio yn erbyn ffracio, neu, yn wir, Ddeddf gyfreithiol. A fydd y Cwnsler Cyffredinol, felly, yn cydweithio â'r Prif Weinidog i sicrhau bod gyda ni'r opsiynau yna erbyn diwedd y flwyddyn gyfreithiol newydd, fel petai, pan ddaw'r gyfraith yma i rym ym mis Ebrill y flwyddyn nesaf, fel bod y Cynulliad yn gallu cymryd y camau penodol i wahardd ffracio yng Nghymru?