Part of 3. Cwestiynau Amserol – Senedd Cymru am 2:45 pm ar 22 Tachwedd 2017.
Diolch i chi, Darren. Mae consortia rhanbarthol yn derbyn cyllid gan eu hawdurdodau lleol cyfansoddol, eu hincwm masnachu a grant gan Lywodraeth Cymru. Maent yn briodol atebol i'w cydbwyllgorau llywodraethu, sy'n cynnwys aelodau etholedig lleol, i wneud yn siŵr eu bod yn cyflawni eu dyletswyddau statudol. Rwyf hefyd yn eu herio drwy gyfarfodydd herio ac adolygu rheolaidd.