Part of 3. Cwestiynau Amserol – Senedd Cymru am 2:56 pm ar 22 Tachwedd 2017.
Wel, y pwynt cyffredinol y mae'r Aelod yn ei wneud yw'r un amlwg—sef y bydd y dadansoddiad cost a budd yn newid os yw'r costau'n codi. A wyf fi'n credu bod cwblhau ffordd yr A465 fel y gall gynnig y manteision economaidd angenrheidiol i'r rhan honno o Gymru yn eliffant gwyn? Na, yn sicr nid wyf yn credu hynny. Mae'n rhan bwysig iawn o'r seilwaith y mae'r Llywodraeth hon yn benderfynol o'i roi i'r rhannau o gymunedau'r Cymoedd lle mae cysylltedd yn gysylltiedig iawn â ffyniant economaidd yn y dyfodol.
O ran y cwestiwn ynglŷn â'r ffigur rwy'n ei gydnabod, dyna'r ffigur a roddais yn fy ateb, sef mai gwerth cyfalaf amcangyfrifedig y cynllun ar hyn o bryd yw tua £400 miliwn.