Part of the debate – Senedd Cymru am 4:58 pm ar 22 Tachwedd 2017.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwy'n croesawu'r cyfle i siarad yn y ddadl hon heddiw. Yn amlwg, rwy'n anghytuno â bron pob un gair a wnaeth y siaradwr blaenorol ei ddweud, ond bydd yna ddim synnu am hynny. Ac, wrth gwrs, rwy'n cynnig yn ffurfiol y gwelliant yn enw Rhun ap Iorwerth.
Mae'r ffaith, wrth gwrs, ein bod ni'n sôn am bolisi trethiant yng Nghymru yn gam enfawr i ni fel cenedl ar ôl 800 o flynyddoedd heb yr hawl i godi trethi o gwbl. Ni fydd hi'n newyddion i lefarydd UKIP, ac rwy'n siŵr ei fod e ddim yn synnu erbyn hyn, ein bod ni bron a bod bob tro nawr yn cynnig gwelliant i'r cynnig gwreiddiol sydd yn dileu pob un gair yn y cynnig gwreiddiol. Ond mae hynny'n adlewyrchiad o'r ffaith ein bod ni'n dod o rannau gwahanol iawn o'r sbectrwm gwleidyddol a gyda delfrydau gwahanol gwleidyddol hefyd.
Yn y lle cyntaf, mae Plaid Cymru wedi bod o'r farn bod datganoli trethi yn cryfhau democratiaeth Cymru, oherwydd nawr mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru ystyried canlyniadau fiscal ac economaidd ei pholisïau ei hun a'i ddeddfwriaeth ei hun, gan fod yna nawr gyfrifoldeb ganddi dros rai o'r trethi sydd yn cael eu rhoi i bobl Cymru. Mae hyn o fudd i bobl Cymru ac yn gosod mwy o gyfrifoldeb ac atebolrwydd ar y Llywodraeth yma.
Yn fwy cyffredinol, mae Plaid Cymru yn gweld polisi fiscal a threthu fel modd o greu amgylchedd busnes sydd yn sail i dwf economaidd cynaliadwy, yn ffordd o greu newid mewn ymddygiad personol, sydd yn dda ar gyfer pethau fel iechyd, a'n hymdrechion ni yn erbyn newid hinsawdd, ac yn bwysig iawn fel modd o godi arian er mwyn buddsoddi yn ein pobl ac yn ein gwasanaethau cyhoeddus. Ac wrth gwrs i fi, fel rhywun sydd am weld Cymru yn wlad annibynnol, mae'n hollbwysig ein bod ni'n dod i'r afael ag iechyd fiscal ein gwlad ni ein hunain—nid dim ond, gyda llaw, oherwydd amcanion cyfansoddiadol, ond er mwyn creu cymunedau llewyrchus a gwasanaethau cyhoeddus modern.
Yn ein gwelliant ni heddiw, Dirprwy Lywydd, rydym ni'n croesawu ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar drethi newydd a all gefnogi polisïau yn ymwneud â'r amgylchedd, iechyd a materion cymdeithasol. Rydym, wrth gwrs, yn enwedig yn croesawu'r ffaith bod yr ymgynghoriad yn ystyried treth ar blastig tafladwy—polisi maniffesto Plaid Cymru—ac rydym yn mawr obeithio y bydd hyn yn cael ei chyflwyno yn y pen draw.
Wrth gwrs, rydym eisoes wedi cynnig treth ar ddiodydd siwgr—rhywbeth ar y pryd, gyda llaw, a oedd wedi wynebu gwrthwynebiad mawr gan nifer o bleidiau yn y Siambr yma, os ydw i'n cofio'n iawn, ond nawr yn rhywbeth sydd yn cael ei groesawu a'i gefnogi gan bawb, fel petai nhw wastad wedi ei gefnogi o'r lle cyntaf. Ond, beth bynnag, rydym ni'n falch bod yna gefnogaeth yn y pen draw.
Rydym hefyd yn ailadrodd ein galwad i ddatganoli treth gorfforaethol a tholl teithwyr awyr. Mae'r rhain yn hanfodol i ddyfodol economaidd Cymru, ac nid oes rheswm pellach gan Lywodraeth San Steffan i wrthod eu trosglwyddiad i Gymru, yn enwedig wrth i ni ystyried pwerau fiscal y ddwy wlad ddatganoledig arall. Nid yw hi'n deg bod gan Lywodraeth San Steffan yr hawl i roi mantais fiscal a threthiant ac economaidd i wledydd wrth iddi ei gweld hi'n deilwng iddyn nhw eu cael nhw. Mae hi lan i bobl a Llywodraeth Cymru a Chynulliad Cymru i benderfynu ar y pwerau rydym ni eu heisiau er mwyn gwella bywydau pobl yn y wlad yma.
I gloi, Dirprwy Lywydd, hoffwn i hefyd gymryd y cyfle yma i danlinellu pwysigrwydd y sefydliad yma a'r Llywodraeth yn sicrhau ymwybyddiaeth a diddordeb pobl Cymru ym materion fiscal y wlad. Gan ein bod ni nawr ar y trywydd o fod yn wlad fwy normal gyda phwerau trethiant, mae angen i ni newid sut rydym ni yn gwneud busnes yn y lle yma. Rydym ni wedi gweld heddiw gymaint o achlysur gwleidyddol ar y newyddion ydy diwrnod cyllid y wladwriaeth Brydeinig, gyda sgrwtini enfawr a gyda'r cyhoedd yn ymwybodol iawn o bwysigrwydd y datganiad a wnaed yn Nhŷ'r Cyffredin. Mae angen i ni sicrhau proses cyllid cyffelyb yma, er mwyn codi ymwybyddiaeth dinasyddion Cymru am y penderfyniadau sydd yn cael eu gwneud—y penderfyniadau ariannol sy'n cael eu gwneud—a fydd yn effeithio arnyn nhw, ac er mwyn cyfleu'r lefel o bwysigrwydd, nawr, sydd yn bodoli yng nghyllideb genedlaethol Cymru.