Part of the debate – Senedd Cymru am 4:47 pm ar 22 Tachwedd 2017.
Wel, ni allaf fod yn gyfrifol am aneglurder iaith y Ceidwadwyr, ond rwy'n falch o gael yr eglurhad.
Yn y Pwyllgor Cyllid ychydig wythnosau yn ôl, pan roddodd yr Ysgrifennydd Cyllid dystiolaeth i ni, roedd yn ddiddorol clywed Eluned Morgan yn dweud mewn cywair gorawenus mai'r rhan fwyaf gyffrous o'i gyhoeddiad ynglŷn â threthi datganoledig ar ddechrau mis Hydref oedd bod gennym dreth newydd. Nawr, mae llawer o bethau'n fy nghyffroi, ond nid yw trethi newydd yn un ohonynt, ac mae'n debyg fod hynny'n dangos y gwahaniaeth rhwng meddylfryd y sosialydd ar y naill law a rhywun â greddfau libertaraidd fel finnau ar y llall.
Felly, rwy'n ystyried trethiant, wrth gwrs, yn anochel yn y gymdeithas fodern i dalu am y pethau sy'n cael eu darparu drwy'r Llywodraeth, ond serch hynny, rwy'n credu y dylem bob amser geisio creu system dreth nad yw'n amharu ar greu cyfoeth, ac nid wyf o'r farn, fel y dywed ein cynnig yn y paragraff olaf, y dylem roi beichiau treth ychwanegol ar unigolion a busnesau na chosbi unigolion am sut y maent yn dewis byw eu bywydau.
Economïau treth isel yn gyffredinol yw'r rhai mwyaf llwyddiannus yn tueddu i fod. Nawr, mae'r Ysgrifennydd Cyllid wedi fy meirniadu ar fwy nag un achlysur am grybwyll Singapôr. Y tro diwethaf i mi sôn am sefyllfa Singapôr, cyfeiriodd at fy ngweledigaeth ddystopaidd o Brydain fel economi debyg i Singapôr. Wel, buasai'n beth da iawn pe baem yn ailadrodd llwyddiant Singapôr yn y byd modern. Yn 1965, pan ddaeth Singapôr yn annibynnol, eu hincwm cyfartalog oedd $500 y flwyddyn; bellach mae'n $55,000 y flwyddyn—yr incwm cyfartalog yn Singapôr. Mae hynny wedi digwydd oherwydd diwylliant cefnogol i fusnes Llywodraeth Singapôr yn yr hanner canrif diwethaf.
Yn y cyfnod rhwng 1965 a 2015, cafwyd cynnydd o 3,700 y cant yn incwm cyfartalog pobl Singapôr, o'i gymharu â 300 y cant yn unig yn yr Unol Daleithiau. Ac os cymerwn y 15 mlynedd rhwng 2000 a 2015, roedd cynnydd o 35 y cant yn y safon byw yn Singapôr, o'i gymharu ag 8 y cant yn unig yn yr Unol Daleithiau. Maent i'w gweld yn deall sut i greu cyfoeth a ffyniant, felly efallai y gallwn ddysgu rhywbeth ganddynt. Mae 90 y cant o bobl Singapôr yn berchen-feddianwyr, ac nid oherwydd nad ydynt wedi cael addysg dda neu wasanaethau iechyd da ychwaith; ceir llawer o astudiaethau sy'n dangos bod gan Singapôr rai o'r safonau uchaf yn y byd.
Nawr, mae Llywodraeth Cymru yn y broses o ddefnyddio ei rhyddid i osod trethi newydd ac i amrywio trethi er mwyn mynd i'r cyfeiriad anghywir yn gyfan gwbl yn fy marn i. Credaf fod y posibilrwydd o gyflwyno treth dwristiaeth wedi'i gondemnio'n llwyr gan unrhyw un sydd ag unrhyw beth i'w wneud â'r diwydiant twristiaeth. Mae o bwys enfawr i economi Cymru, yn enwedig yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru, sef yr ardal rwy'n ei chynrychioli. Ar hyn o bryd, mae gan Gymru 5 y cant o boblogaeth y DU, a 3 y cant yn unig o dwristiaid y DU a 2 y cant yn unig o wariant ymwelwyr. Mae'n ymddangos i mi'n hollol gwicsotaidd i fod yn gosod trethi, neu'n cynnig gosod trethi ar dwristiaid, yn enwedig gan fod y Deyrnas Unedig, yn astudiaeth fforwm economaidd y byd o drethi ar dwristiaeth ledled y byd, wedi ei gosod yn safle 135 o 136 o wledydd o ran cystadleurwydd. Dylem fod yn gwneud popeth a allwn i annog, nid i anghymell, twristiaeth i Gymru a'r Deyrnas Unedig yn gyffredinol.
Wrth gwrs, mae'r diwydiant lletygarwch yng Nghymru wedi condemnio'r cynnig hwn yn llwyr. Mae Anthony Rosser, Gadeirydd Cymdeithas Lletygarwch Prydain yng Nghymru, a rheolwr gwesty Llyn Efyrnwy, yn dweud:
Mae gennym bryderon go iawn eisoes ynglŷn â'r crochan diweddar o gostau sydd wedi berwi drosodd yn y 18 mis diwethaf, gan gynnwys cynnydd mewn ardrethi busnes, codiadau cyflog, chwyddiant cynyddol a chostau bwyd ac ynni'n codi. Bydd cynyddu costau fel hyn, wrth gwrs, yn rhoi mantais annheg i'n cystadleuwyr yn Lloegr.
Felly, bydd fy mhlaid yn gwrthwynebu'n llwyr unrhyw gynnig i gyflwyno treth dwristiaeth os cyflwynir un i ni maes o law.
Nid yw'r cyhoeddiad diweddaraf yn dreth fel y cyfryw, ond mae'n cyfateb i dreth—y cynnig i gyflwyno isafbris am alcohol i Gymru. Y nod, mae'n debyg, yw datrys problemau yfed gormod o alcohol, ond ni all wneud hynny byth, o ystyried y llanast o dollau a threthi ar alcohol yn gyffredinol ledled y Deyrnas Unedig. Mae gennym y trethi alcohol uchaf yn Ewrop, yn gyffredinol—mae 77 y cant o bris potel o Scotch yn dreth—[Torri ar draws.] Iawn.