Part of the debate – Senedd Cymru am 5:03 pm ar 22 Tachwedd 2017.
Diolch. Rwy'n falch o gynnig y gwelliant yn enw Paul Davies. Dyma un o'r dadleuon hynny, rwy'n teimlo, lle mae'r gwelliannau'n dweud y cyfan. Mae gwelliannau Plaid Cymru, y Ceidwadwyr Cymreig a'r Llywodraeth i gyd yn dweud 'dileu popeth', gan geisio dileu'r cynnig a dinistrio'i gilydd yn y broses. Roeddech yn hael iawn, Neil Hamilton, yn dweud y buasech yn derbyn y rhan fwyaf o'n gwelliant, o ystyried ei fod yn dileu'r rhan fwyaf o'ch cynnig—ond rwy'n derbyn yr hyn a ddywedoch yn yr ysbryd a fwriadwyd.
I fod yn deg â chynnig UKIP, mae'n gwneud rhai pwyntiau pwysig. Mae pwynt 2 yn gywir i ddweud y dylai ffocws Llywodraeth Cymru fod ar dwf economaidd a chreu swyddi sy'n talu'n dda. Dyna beth y byddech yn gobeithio amdano gan unrhyw Lywodraeth. Dylai'r Llywodraeth gefnogi'r mwyaf bregus mewn cymdeithas, ond rhaid i chi gynhyrchu'r cyfoeth cychwynnol er mwyn rhannu ei ddifidendau. A chyn i Steffan Lewis neidio ar ei draed a dweud fy mod yn sôn am economeg o'r brig i lawr o'r 1980au, nid dyna a wnaf; rwy'n sôn yn unig am bwysigrwydd cynhyrchu cyfoeth i unrhyw economi. Fodd bynnag, mae pwynt 1 y cynnig wedi'i lesteirio ychydig gan iaith braidd yn gyffroadol UKIP, megis defnyddio
'Cymru fel labordy treth arbrofol'.
Rhaid i mi ddweud, mae'n gwneud i Lywodraeth Cymru swnio ychydig fel Dr Bunsen a Beaker o The Muppet Show—roedd Mark Isherwood yn hoffi honna. Efallai fod hynny'n fwriadol gan UKIP. Mae rhywun yn amlwg wedi cael llawer o hwyl yn eich adran ymchwil. Edrychwch, rwy'n gweld safbwynt UKIP ar ran o hyn, ond a bod yn deg â Llywodraeth Cymru, mae deddfwriaeth Bil Cymru 2016 yn galw am greu treth trafodiadau tir, treth stamp a threth gwarediadau tirlenwi newydd yng Nghymru trwy ddiffodd deddfwriaeth y DU sy'n cyfateb iddynt ar hyn o bryd yng Nghymru. Tu hwnt i hynny hefyd, mae datganoli treth incwm yn rhannol ym mis Ebrill 2019 yn deillio'n rhannol o'r ddeddfwriaeth DU honno, er fy mod yn deall ei fod yn rhan o drafodaethau Llywodraeth Cymru gyda'r Trysorlys ar ddarparu'r fframwaith cyllidol mawr ei angen.
Iawn, gan droi at y trethi newydd sydd wedi cael eu trafod yn helaeth: wel, unwaith eto, mae deddfwriaeth Bil Cymru yn caniatáu—byddai Llywodraeth Cymru yn dweud, 'annog' hyd yn oed—y Llywodraeth i edrych ar yr achos dros drethi newydd fel ffordd, ie, o godi refeniw, ond hefyd o gynyddu atebolrwydd. Bydd gan Aelodau a fu yn y lle hwn ers mwy o amser brofiad hwy o'r lle hwn fel awdurdod gwario'n unig, sef yr hyn y mae'r ddeddfwriaeth newydd honno wedi ceisio ei newid. Mae'r Ceidwadwyr Cymreig yn anghytuno â Llywodraeth Cymru ynglŷn â'r math o drethi y gellid eu hystyried yn rhan o'r broses honno. Mae ein gwelliant 2 yn nodi pwysigrwydd sail dreth gynhwysfawr, a grybwyllwyd yn gynharach. Wrth hynny, yr hyn a olygwn yw sail dryloyw, ddealladwy ac—yn fwyaf arbennig—un sy'n gystadleuol.
Rhaid i drethiant newydd yng Nghymru beidio â bod yn rhywbeth sy'n cael ei 'wneud i' bobl. Gallaf weld Ysgrifennydd y Cabinet yn chwerthin—gallai fod ynghylch rhywbeth arall; nid wyf yn siŵr. Yn wir, mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi dweud hyn ei hun yn y gorffennol: yn hytrach, dylai fod ymddiriedaeth, contract rhwng y Llywodraeth a'r bobl mewn perthynas â threthiant. Dylem feddwl ymhellach na, 'Iawn, sut y gallwn wasgu mwy o arian allan o'r sail dreth?' Ni waeth pa mor ddeniadol yw hynny i unrhyw Lywodraeth, yn naturiol, yn enwedig ar adeg pan fo cyfyngiadau economaidd yn dynn. Na, rhaid inni sicrhau bod anghenion yr economi'n flaenllaw—beth fydd yn helpu'r economi i feithrin busnesau a chreu'r amgylchedd treth a chyflogaeth cywir.
Ar fater y dreth dwristiaeth fel y'i gelwir, edrychwch, nid wyf yn bwriadu ailagor hyn heddiw. Credaf fod sylwadau gan y Ceidwadwyr Cymreig—a'r pleidiau eraill, yn wir—mewn dadleuon blaenorol yn gwneud ein safbwynt ar hynny'n hollol glir. Yr hyn a ddywedwn yw bod Llywodraeth Cymru yn llwyr o fewn ei hawliau i ystyried trethi newydd, ond rhaid i'r broses honno neu'r mecanwaith hwnnw fod yn un sy'n cydnabod y cydbwysedd rhwng y niwed posibl a'r lles i'r economi, a gwneud yn siŵr nad yw'r ystyriaeth o drethi newydd ynddi ei hun yn fwy na'r manteision. Gwyddom sut y gall canfyddiadau dyfu, a gall pobl fod yn bryderus ynglŷn â'r awgrym hyd yn oed o newid system sy'n bodoli eisoes. Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet, a'i ragflaenydd yn wir, na ddylid newid er mwyn newid yn unig. Roeddwn yn meddwl fod hwnnw'n ymadrodd da, ac rwy'n meddwl ei fod yn ymadrodd da yn awr. Gwn ei fod yn un y mae Ysgrifennydd y Cabinet yn cytuno ag ef. Felly, credaf y dylem fod yn glynu wrth hynny.
A gaf fi ddweud, yn olaf, Ddirprwy Lywydd, nad oes unrhyw sôn am fenthyca yn y cynnig? Yn amlwg, un agwedd bwysig ar ddatganoli treth—mewn dadleuon yn y gorffennol yn y Siambr hon yn sicr—yw darparu ffrwd refeniw i gefnogi benthyca ar gyfer prosiectau cyfalaf—benthyca a fu'n brif ymborth i awdurdodau lleol ers amser maith, ac i gyrff eraill yng Nghymru, ond nid yw Llywodraeth Cymru, Cynulliad Cymru wedi gallu cael mynediad ato. Felly, mae datganoli trethiant, os nad yw'n gwneud dim arall er lles—ac yn y tymor hwy, rhaid inni edrych ar effeithiau'r trethi—o leiaf mae'n caniatáu inni gael ffrwd fenthyca ar gyfer buddsoddi mewn prosiectau cyfalaf pwysig. Yn gryno, Ddirprwy Lywydd, pa un a ydych yn ei hoffi ai peidio, mae datganoli trethi yn ffaith yn y tirlun gwleidyddol newydd a grëwyd gan Fil Cymru. Fel pob offeryn, gallwch ei ddefnyddio'n wael, neu gallwch ddefnyddio'r offeryn anghywir ar gyfer y gwaith anghywir, ond mae hynny'n fater i bob un ohonom yma.
Yn olaf, ar fater cydsyniad yr etholwyr, wel, wrth gwrs, nid refferendwm yn unig y mae hynny'n ei olygu; gall olygu etholiad cyffredinol y Cynulliad, a buaswn yn gobeithio, wrth symud ymlaen, y bydd pob plaid yma yn agored ynglŷn â'r cynigion treth yn eu maniffestos ac yn y cyfnod yn arwain at etholiadau Cynulliad yn y dyfodol.
Rwy'n gobeithio y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn edrych eto ar y ffordd y caiff deddfwriaeth newydd ei gweithredu yng Nghymru, er mwyn sicrhau bod Cymru yn y pen draw yn cael sail dreth gynaliadwy, gystadleuol a phoblogaidd—neu mor boblogaidd ag y bo modd—mewn blynyddoedd i ddod.