Part of the debate – Senedd Cymru am 5:33 pm ar 22 Tachwedd 2017.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n falch iawn o ddilyn y Gweinidog Cyllid. Rwyf bob amser yn mwynhau ei hiwmor athroaidd—a'i gyfeiriad at A.J.P. Taylor, hanesydd mawr. Roedd A.J.P. Taylor yn mynd ati'n lew i hyrwyddo pobl amhoblogaidd ac achosion amhoblogaidd, felly rwy'n siŵr y buasai wedi bod yn fwy cydymdeimladol tuag ataf fi na thuag at yr Ysgrifennydd cyllid. Mae ei lyfrau'n cynnwys llawer o wirioneddau mawr; rwy'n ei gofio'n dweud unwaith, pan ofynnwyd iddo beth oedd gan y dyfodol i'w gynnig, fod haneswyr yn cael digon o anhawster rhagweld y gorffennol heb sôn am ragweld y dyfodol. Mae hynny'n rhywbeth y bydd yr Ysgrifennydd cyllid yn gorfod ei wneud, wrth gwrs, mewn perthynas ag effaith cyllideb y DU a'r newidiadau y gallai eu gwneud o ganlyniad iddi, os o gwbl.
Ond roedd pwynt Mark Reckless yn un diddorol, ac mae'n enghraifft ddiddorol o'r posibilrwydd o gystadleuaeth dreth o fewn y Deyrnas Unedig, a ddylai, yn fy marn i, arwain at wthio cyfraddau treth i lawr. A chredaf mai'r pwynt arall a wnaeth Mark Reckless sy'n werth ei gofio yw ymadrodd Lawson y dylem ganolbwyntio ar ehangu'r sail dreth ac yna ostwng cyfraddau treth. Yr hyn a brofwyd yn y 1980au yn sicr oedd cynnydd enfawr mewn refeniw cyhoeddus ar y naill law a gostyngiadau sylweddol yng nghyfraddau trethi, yn enwedig trethi personol. Felly, roedd y ffyniant mawr ar ddiwedd y 1980au, a ddrylliwyd gan fecanwaith cyfraddau cyfnewid, wrth gwrs, yn deillio'n llwyr, yn fy marn i—[Torri ar draws.]—o doriadau treth yng nghyllidebau Howe a Lawson yn y 1980au. Pe na bai Nigel Lawson wedi bod ag obsesiwn ar aelodaeth Prydain o'r mecanwaith cyfraddau cyfnewid, ni fuasai polisi economaidd y Llywodraeth ar yr adeg honno wedi cael ei danseilio.
Rydym wedi cael dadl ddiddorol. Cefais fy ngheryddu gan Nick Ramsay am iaith liwgar y cynnig, ond rwy'n cofio, heb fod mor bell yn ôl â hynny, Steffan Lewis yn ysgrifennu erthygl mewn papur newydd yn dweud sut roedd y Senedd yn rhy ddiflas, felly credaf y dylai ganmol fy iaith liwgar yn y cynnig heddiw mewn gwirionedd. I ddychwelyd at araith Nick Ramsay hefyd, ni ddywedais fy mod yn derbyn gwelliannau'r Ceidwadwyr; dywedais fy mod yn cytuno â hwy. Mae derbyn a chytuno'n ddau beth hollol wahanol, wrth gwrs.
Ond mae yna gytundeb cyffredinol o gwmpas y Cynulliad ar ddatganoli trethi. Yn bersonol, fel y dywedais o'r blaen, rwy'n gryf o'u plaid. Wrth gwrs, mae gennym gyfle i arbrofi—nid wyf yn erbyn arbrofi fel y cyfryw. Yr hyn rwy'n ei erbyn yw arbrofi gyda threthi sy'n debygol o niweidio economi Cymru a ffyniant ein cenedl. Felly, natur y defnydd a wneir o'r rhyddid sydd gennym yn awr, ac y gobeithiaf y bydd yn cael ei ymestyn maes o law, dyna yw hanfod y ddadl hon.
Gwnaeth Mike Hedges rai pwyntiau diddorol yn ei araith na allwn anghytuno â hwy. Wrth gwrs, os ydym am gael gwasanaethau cyhoeddus o ansawdd, rhaid i ni dalu amdanynt, ond gallwch gynllunio system dreth sy'n mynd i gynyddu refeniw cyhoeddus ar y naill law neu ei leihau ar y llaw arall, a'r hyn sydd ei angen arnom yw system dreth sy'n mynd i wneud hynny. Wrth gwrs, nid ydym yn sôn am breifateiddio'r gwasanaeth iechyd neu addysg, ac felly bydd yn rhaid iddynt gael eu hariannu drwy drethiant ar ryw ffurf neu'i gilydd. Ond os edrychwch ar hanes trethiant ym Mhrydain ers y rhyfel, er gwaethaf gwahaniaethau enfawr mewn polisïau treth o dan Lywodraethau olynol, mae derbyniadau treth fel cyfran o'r cynnyrch domestig gros wedi aros yn rhyfeddol o gyson ar oddeutu 35 y cant, hyd yn oed yn y blynyddoedd o drethu uchel dan Lywodraethau Llafur, a threthu cymharol isel Llywodraethau Torïaidd. Dylai hynny ddweud rhywbeth wrthym—os ydym yn mynd i lwyddo i wneud y wlad yn fwy ffyniannus yn y dyfodol, dylem anelu at gael trethi symlach a threthi is.