Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:10 pm ar 28 Tachwedd 2017.
Gallaf, rwy'n ddiolchgar i sefydliadau fel BAWSO, sydd yn cynnig cymorth i rai o aelodau mwyaf agored i niwed y gymuned pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig. Rydym ni wedi darparu £446,000 o gyllid i BAWSO o'r grant refeniw trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol yn ystod y flwyddyn ariannol hon, a chyfarfu swyddogion â defnyddwyr gwasanaeth BAWSO yn ddiweddar yn rhan o'r fframwaith ymgysylltu â goroeswyr. Rwy'n deall y bydd Arweinydd y Tŷ a'r Prif Chwip yn ymweld â swyddfa BAWSO yn Wrecsam yr wythnos nesaf.