Yr Adran Gwaith a Phensiynau

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:58 pm ar 28 Tachwedd 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 1:58, 28 Tachwedd 2017

(Cyfieithwyd)

Wel, mae'n fater, wrth gwrs, i'r Adran Gwaith a Phensiynau, ond, yn y cyfarfod hwnnw, cadarnhawyd gan y Gweinidog Adran Gwaith a Phensiynau dan sylw, y Gweinidog dros gyflogaeth, eu bod yn bwriadu adleoli staff o bum swyddfa budd-daliadau'r Adran Gwaith a Phensiynau i swyddfa i'r gogledd o Gaerdydd. Dywedwyd y byddai'r Gweinidog yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i Lywodraeth Cymru, ond, yn amlwg, mae'n bwysig dros ben bod pobl yn gwybod beth yw'r cynlluniau ac yn gwybod beth fydd yn digwydd iddyn nhw yn y dyfodol cyn gynted â phosibl.