Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:12 pm ar 28 Tachwedd 2017.
Mae Cymorth i Ferched Bangor a'r cylch, yn fy etholaeth i, yn hynod bryderus yn sgil y sôn am integreiddio grant gwasanaethau trais yn erbyn merched, cam-drin domestig a thrais rhywiol i mewn i un grant cyfansawdd. Maen nhw'n bryderus y gallai'r un peth a ddigwyddodd yn Lloegr ddigwydd yma. Fe gollwyd 17 y cant o lochesi arbenigol, a bu'n rhaid gwrthod traean o'r holl gyfeiriadau at lochesi oherwydd prinder lle. Fe ddigwyddodd hyn ar ôl i'r Llywodraeth yn Lloegr roi'r gorau i glustnodi Cefnogi Pobl—'ring-fence-io', hynny yw—fel arian ar wahân. A fedrwch chi warantu y bydd lefel ddigonol o gyllid ar gael ar gyfer darparu llochesi ar draws Cymru os daw'r newid cyllidebol i rym yn 2018-19?