Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:54 pm ar 28 Tachwedd 2017.
Wrth i ni adael yr Undeb Ewropeaidd, mae nifer cynyddol o bobl yn poeni ein bod ni'n cadw'r cyfreithiau amgylcheddol sydd yn amddiffyn yr hyn yr ydych chi newydd ei ddisgrifio—y ffordd yr ŷm ni wedi gwella'r amgylchedd yma yng Nghymru ac ym Mhrydain. Nawr, ddydd Llun, gerbron y pwyllgor materion allanol, fe ddywedoch chi eich bod chi wedi paratoi Bil parhad rhag ofn nad yw'r trafodaethau gyda Llywodraeth San Steffan yn llwyddo i ddarparu'r amddiffyn yma rydym ni'n chwilio amdano fe. Onid ydych chi'n teimlo y byddai fe'n briodol ichi gyhoeddi'r Bil parhad yna ar ffurf drafft nawr fel arwydd cyhoeddus o'ch ymrwymiad a'ch bwriad chi i sicrhau bod y ddeddfwriaeth yma'n parhau wrth ymadael â'r Undeb Ewropeaidd?