Trais yn erbyn Menywod a Merched

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:08 pm ar 28 Tachwedd 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 2:08, 28 Tachwedd 2017

(Cyfieithwyd)

A gaf i longyfarch yr aelod ar yr hyn y credaf yw'r cwestiwn cyntaf i'r Prif Weinidog y mae hi wedi ei ofyn? Rwy'n gobeithio y gallaf i roi ateb sy'n foddhaol iddi hi.

Rydym ni'n gweithredu'r strategaeth genedlaethol sy'n cyflwyno ein camau i fynd i'r afael â thrais yn erbyn menywod a merched, ac mae'n rhaid i leisiau goroeswyr fod yn flaenllaw yn y gwaith hwn. Gan gydnabod hynny, rydym ni'n datblygu fframwaith ymgysylltu â goroeswr cenedlaethol.