Meysydd Parcio a Reolir gan Awdurdodau Lleol

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:14 pm ar 28 Tachwedd 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 2:14, 28 Tachwedd 2017

(Cyfieithwyd)

Wel, mae tri pheth yn y fan yma. Rwy'n credu, yn gyntaf oll, bod technoleg wedi symud ymlaen i'r pwynt lle na ddylai unrhyw beiriannau newydd fod yn beiriannau darnau arian yn unig, ond yn beiriannau lle gall pobl ddefnyddio apiau i barcio, neu, yn wir, peiriannau lle gall pobl ddefnyddio eu cerdyn i dalu. Nawr, rwy'n ffodus i fyw mewn awdurdod hynod flaengar a reolir gan Lafur ym Mhen-y-bont ar Ogwr lle mae hynny'n bosibl yn y meysydd parcio, ac yn wir, mae ganddyn nhw bolisi lle gellir parcio am ddim mewn maes parcio aml-lawr am y ddwy awr gyntaf, sy'n dangos eu bod nhw'n cyflawni dros bobl Pen-y-bont ar Ogwr. Cofiwch, wrth gwrs, bod unrhyw arian sy'n cael ei godi o barcio yn mynd yn ôl i goffrau'r awdurdod lleol er budd y gymuned leol. Ond rwy'n derbyn y pwynt: rwy'n credu, wrth i beiriannau newydd ddisodli hen rai, y dylen nhw gynnig y dewis o nifer o ffyrdd o dalu i bobl, boed hynny dros y ffôn, trwy ap neu gyda cherdyn a rhif.