Recriwtio a Chadw Staff yn y Sector Gofal Cymdeithasol

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:16 pm ar 28 Tachwedd 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 2:16, 28 Tachwedd 2017

(Cyfieithwyd)

Gwnaf. Yn gyntaf oll, sicrhawyd £19 miliwn o gyllid cylchol fel bod awdurdodau lleol yn gallu gweithio gyda'u darparwyr gwasanaeth i helpu i reoli'r effaith o weithredu'r cyflog byw cenedlaethol. Dyna'r hyn yr oeddem eisiau ei weld. Beth rydym ni wedi'i wneud? Wel, rydym wedi cyflwyno rheoliadau i wella'r telerau ac amodau ar gyfer y gweithlu, gan ei gwneud yn ofynnol i ddarparwyr fod yn fwy tryloyw o ran eu defnydd o gontractau dim oriau, i gynnig dewis contract oriau sefydlog i weithwyr ar ôl cyfnod tri mis o gyflogaeth, ac i nodi'n glir yr amser teithio a'r amser gofal. Rydym wedi ymestyn y gofrestr i weithwyr gofal cartref ar sail wirfoddol o 2018 ymlaen, cyn cyflwyno cofrestriadau gorfodol o 2020. Mae hynny'n hanfodol er mwyn sicrhau bod y gweithlu yn cael ei broffesiynoli fel y gallwn ni gael gweithwyr gofal cymdeithasol sy'n meddu ar gymwysterau priodol i ddarparu gofal o ansawdd i'r rhai hynny sy'n agored i niwed yn ein cymdeithas.