Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:15 pm ar 28 Tachwedd 2017.
Mae'r gweithlu gofal cymdeithasol yn darparu gwasanaeth cyhoeddus hanfodol, ac i sicrhau bod y sector yn gynaliadwy, rydym yn cymryd camau gan gynnwys mynd i'r afael â chontractau dim oriau a chyflogau isel, gan gofrestru gweithwyr a datblygu llwybrau gyrfaol, a bydd hynny'n helpu i godi statws a phroffil y gweithwyr fel y bydd gofal cymdeithasol yn ddewis gyrfaol cadarnhaol.