Part of the debate – Senedd Cymru am 5:40 pm ar 28 Tachwedd 2017.
Diolch, Llywydd. Mae’r gwelliannau yma, wedi’u cyflwyno yn enw Bethan Jenkins, yn adlewyrchu’r angen am i wybodaeth am y Bil gael ei darparu mewn dull hygyrch sy’n adlewyrchu argymhelliad 4 adroddiad y pwyllgor cydraddoldeb a fu’n edrych ar hyn. Rydym ni wedi gweithio efo’r Llywodraeth ar y gwelliannau yma, ac mae angen y gwelliannau i sicrhau bod cyfathrebu efo’r tenantiaid yn digwydd mewn dull hygyrch.
Gair byr cyffredinol, gan mai dyma’r tro olaf imi godi ar fy nhraed ar y pwnc y prynhawn yma: rydym ni wedi colli 46 y cant o dai o’r sector tai cymdeithasol yn sgil hawl i brynu. Mae bron i hanner y tai ddim bellach ar gael i’w rhentu gan bobl sydd methu fforddio unrhyw ffordd arall o gael to uwch eu pennau. Rhestrau aros hir, mwy o ddigartrefedd, gofid a phoen meddwl—dyna mae’r hawl i brynu wedi’i olygu yng Nghymru. O’r diwedd, mae’n cael ei ddiddymu—gobeithio—y prynhawn yma. Diwrnod hanesyddol yn wir.