Part of the debate – Senedd Cymru am 5:42 pm ar 28 Tachwedd 2017.
Diolch. Mae'r grŵp hwn o welliannau yn ymwneud â gofynion landlordiaid yn gysylltiedig â darparu gwybodaeth i denantiaid a darpar denantiaid. Mae'r gwelliannau hyn yn sicrhau bod landlordiaid, wrth roi'r wybodaeth i'w tenantiaid, yn rhoi sylw i'w hanghenion a darparu gwybodaeth mewn modd priodol.
Rwy'n rhannu dymuniad Bethan Jenkins i sicrhau bod tenantiaid yn cael gwybodaeth glir a phriodol, a hoffwn ddiolch i Bethan am gyflwyno'r gwelliannau hyn. Rwy'n gwybod ei bod hi wedi bod yn weithgar iawn gyda'r Bil hwn drwy gydol ei hynt a bydd hi'n siomedig nad yw'n gallu bod yma heddiw.
Er bod nifer o ddyletswyddau cydraddoldeb a llesiant sy'n berthnasol yn y maes hwn, bydd y graddau y maen nhw'n berthnasol yn dibynnu ar natur y landlord, ac o bosibl y tenantiaid. Rwy'n awyddus i wneud popeth o fewn ein gallu i sicrhau bod yr holl denantiaid y mae'r ddeddfwriaeth hon yn effeithio arnyn nhw yn cael gwybodaeth briodol sy'n diwallu eu hanghenion. Rwyf i felly yn falch o weld y sicrwydd ychwanegol hwn ar wyneb y Bil ac yn gofyn i'r Aelodau gefnogi gwelliannau 15 ac 16.